Hysbysiadau Preifatrwydd – Rhaglen Cyflymu Twf – Ffurflen Cysylltu â Ni

Mae’ch preifatrwydd yn fater pwysig i Busnes Cymru ac yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, rydym wedi llunio hysbysiad preifatrwydd sy’n esbonio pam rydym yn casglu ac yn defnyddio’ch gwybodaeth. Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn sicrhau bod eich data personol yn cael eu prosesu’n deg ac yn gyfreithlon ac mewn ffordd agored. 

Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer unrhyw wybodaeth bersonol a roddwch. Caiff eich holl ddata personol eu trin yn unol â’r ddeddfwriaeth bresennol ar Ddiogelu Data.

  1. Pam rydym yn casglu ac yn prosesu’ch data  
    • I ddarparu cymorth i fusnesau, y telir amdano gan Lywodraeth Cymru, yn unol â chynnwys Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru  
    • I gynnal gwaith ymchwil neu ddadansoddi a monitro Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru
    • I ariannu, cynllunio a monitro ac i gynhyrchu cyhoeddiadau  ystadegol
    • I gynnal archwiliadau ar y prosiect
    • Byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth fel rhan o unrhyw weithgarwch hyrwyddo gan Busnes Cymru, megis busnes y llywodraeth, astudiaethau achos, datganiadau i’r wasg, ymgyrchoedd marchnata a’r cyfryngau cyhoeddus a bydd yr wybodaeth yn cael ei rhannu â’r cyhoedd  
  2. Pwy fydd yn cael gweld eich data personol?
    • Cesglir y data hyn gan Excelerator Consortium sydd o dan gontract Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth i fusnesau dan nawdd Lywodraeth Cymru yn unig yn unol â chynnwys Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru
    • Cyrff ymchwil cymdeithasol cymeradwy, i gynnal gwaith ymchwil a dadansoddi neu i fonitro cyfle cyfartal gwasanaeth Busnes Cymru
    • Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) - fel noddwr y cynllun, mae WEFO yn gofyn am holl fanylion buddiolwyr er mwyn cyflawni’r gofynion adrodd
    • Y Comisiwn Ewropeaidd a’r Tîm Archwilio Cronfeydd Ewropeaidd a fydd yn cymryd samplau o’n data i sicrhau ein bod yn dilyn y prosesau cywir  
  3. Y broses gyfreithiol ar gyfer prosesu
    • Mae’r dibenion cymorth i fusnesau ac archwilio busnes yn cael eu cynnal fel rhan o dasg gyhoeddus Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth i fusnesau er mwyn bodloni’i phrif nod economaidd i greu swyddi, twf a chyfoeth yng Nghymru
    • Dim ond â’ch caniatâd y cynhelir unrhyw waith ymchwil / gwerthusiad. Cysylltir â sampl yn unig o unigolion a / neu fentrau at y diben hwn.  Os cysylltir â chi i gymryd rhan mewn unrhyw waith ymchwil/gwerthusiad am eich profiad ar y prosiect, esbonnir diben y cyfweliad neu’r arolwg ichi a chewch yr opsiwn i gytuno i gymryd rhan neu i wrthod. Dim ond ar gyfer ymchwil gymeradwy y bydd eich manylion cyswllt yn cael eu defnyddio a chânt eu dileu cyn gynted ag y bydd yr ymchwil hon wedi’i chwblhau
    • Dim ond â’ch caniatâd y gwneir unrhyw weithgarwch hyrwyddo.  Mae gennych yr hawl i wrthod cymryd rhan mewn gweithgarwch hyrwyddo.
    • Mae’n ofynnol bod gan gontractwyr sy’n ymdrin â’ch gwybodaeth ar ran Llywodraeth Cymru achrediad Cyber Essential neu’u bod yn cydymffurfio ag ISO 27001.  O dan y contract rhaid iddynt roi gweithdrefnau cadarn ar waith ar gyfer diogelu gwybodaeth
  4. Am faint fyddwn ni’n cadw’ch manylion?

Cedwir y cofnodion am ddeng mlynedd ar ôl i’r prosiect ddod i ben yn unol â gofynion y cymorth de minimis  

  1. Eich hawliau.
        O dan y ddeddfwriaeth ar ddiogelu data, mae gennych yr hawliau a ganlyn:  
  • yr hawl i weld y data personol y mae Llywodraeth Cymru’n eu cadw amdanoch
  • yr hawl i fynnu ein bod yn cywiro unrhyw beth anghywir yn y data hyn
  • yr hawl i wrthwynebu (o dan amgylchiadau penodol) prosesu’ch data personol neu gyfyngu ar eu defnyddio
  • yr hawl i ofyn (o dan amgylchiadau penodol) inni ddileu’ch data
  • yr hawl i gofrestru cwyn yn Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data


    Manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw:
    Customer Contact
    Wycliffe House
    Water Lane
    Wilmslow
    Cheshire
    SK9 5AF

    Rhif Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
    Gwefan: www.ico.org.uk


    Am help gydag unrhyw rai o’r hawliau uchod, ffoniwch ein Llinell Gymorth 03000 60 3000 neu defnyddiwch y ffurflen cysylltu â ni https://businesswales.gov.wales/contact-us.

    Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

    Manylion cyswllt Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru:

    Cyfeiriad:
    Y Swyddog Diogelu Data
    Llywodraeth Cymru
    Parc Cathays
    CAERDYDD
    CF10 3NQ

    Cyfeiriad E-bost:   Data.ProtectionOfficer@llyw.cymru

 

 

1. Deddf Rhyddid Gwybodaeth a’ch Gwybodaeth chi. 

 

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn caniatáu i’r cyhoedd gael gweld gwybodaeth a gedwir gan gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Efallai y bydd yr wybodaeth a roddwch inni yn destun cais rhyddid gwybodaeth gan aelod o’r cyhoedd. Cyn ymateb i gais am wybodaeth bersonol amdanoch, byddwn yn ymgynghori â chi i ofyn am eich caniatâd. 

 

  1. Newidiadau i’r polisi hwn 

Gall Llywodraeth Cymru wneud newidiadau i’r polisi preifatrwydd hwn ar unrhyw adeg. Bydd newidiadau yn cael eu rhoi yma ac yn dod i rym yn syth.   Pan fydd y polisi hwn yn cael ei newid, byddwn yn cysylltu â chi drwy’r cyfeiriad e-bost sydd gennym ar gofnod yn eich cyfrif er mwyn ichi allu weld y fersiwn newydd.