COVID-19 Cymorth i Fusnesau Banner

Cronfa Adferiad Diwylliannol - Ar agor ar gyfer ceisiadau

Nod y gronfa yw diogelu'r sector diwylliant er mwyn sicrhau bod y sector yn goroesi argyfwng Covid-19 ac yn parhau'n fywiog, yn hyfyw ac yn gynaliadwy yn 2021 a thu hwnt. I adolygu eich cymhwysedd ar gyfer y Gronfa Adferiad Diwylliannol ac i wneud cais cliciwch y ddolen isod.

Gallwch weld y Canllawiau Cymorth i Weithwyr Llawrydd yma

Cymerch olwg ar y Cwestiynau Cyffredinol i Weithwyr Llawrydd yma

Gwiriwr Cymhwysedd

Angen help? Gwelwch ein cwestiynau cyffredin

Er mwyn helpu busnesau i ganfod yr ystod amrywiol o gymorth sydd ar gael i’w helpu drwy'r cyfnod anodd hwn, cymerwch olwg ar dudalennau Dod o Hyd i Gymorth Busnes COVID-19 yr ydym wedi'u creu yma.

Mae'r pecynnau cymorth hyn wedi'u cynllunio i gefnogi cymaint o economi Cymru â phosibl, ac maent yn canolbwyntio'n bennaf ar ddarparu cymorth ariannol i fusnesau, fel y manylir yn y dolenni isod, fodd bynnag mae cymorth cynghori busnes ar gael ar-lein drwy ein gwasanaeth Busnes Cymru i'ch cynorthwyo gyda chynllunio ariannol ac adfer eich busnes pan fydd yr achosion yn dod i ben, a busnesau'n dechrau ystyried eu hadferiad.

Mae hwn yn gyfnod anodd iawn i economi Cymru gyfan, ac mae'r cymorth y mae'r Llywodraeth yn ei ddarparu wedi'i gynllunio i gynorthwyo cynifer o fusnesau ag y bo modd drwy'r argyfwng.

Darparu cyfarpar critigol a chyfarpar diogelu personol (PPE)

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda busnes a diwydiant i gael cyflenwadau o gyfarpar critigol, gan gynnwys cynhyrchion glanhau a PPE i weithwyr rheng flaen sy'n wynebu prinder yn ystod yr achosion o COVID 19. Os ydych yn teimlo y gallwch gyfrannu, mae gwybodaeth am sut i ymgysylltu ar gael yma.


Maes Allweddol

Cerdyn Gweminarau Busnes Cymru
Gweminarau Busnes Cymru

Chwiliwch drwy gweminar Busnes Cymru am ddigwyddiadau busnes COVID-19 ar-lein

Cerdyn Newyddion
Newyddion Busnes Cymru

Yma gallwch ddod o hyd i newyddion busnes yn ymwneud â COVID-19

Cerdyn Cwestiynau Cyffredin
Cwestiynau Cyffredin

Defnyddiwch y cwestiynau cyffredin hyn i gael ateb cyflym i’ch cwestiynau busnes ar COVID-19

Mae Banc Datblygu Cymru yn fenthyciwr unigryw i fusnesau yng Nghymru. Fe'i sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi economi Cymru trwy ei gwneud hi'n haws i fusnesau gael y cyllid sydd ei angen arnynt i ddechrau, cryfhau a thyfu.