Cafwyd sawl cyhoeddiad gan Lywodraethau Cymru a'r DU gyda phecynnau cymorth i fusnesau, ond yn ogystal mae nifer o sectorau lle mae angen cyngor penodol, a lle mae cymorth ariannol penodol wedi cael ei roi yn ei le.
Cyhoeddodd Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr ganllawiau ar gyfer ailddechrau gwaith adeiladu ar 1 Mai 2020. Mae’r canllawiau wedi’u hanelu at gwmnïau sy’n gweithio yn y sector domestig. Ceir dolen at y canllawiau ar wefan FMB.