Cadw'ch gweithlu'n ddiogel
Fel y cydnabyddir yn Gyda’n gilydd at ddyfodol mwy diogel: COVID-19 cynllun pontio hirdymor Cymru o bandemig i endemig (Mawrth 2022) nid yw’r coronafeirws wedi diflannu a bydd yn aros gyda ni yn fyd-eang. Am y rheswm hwn, mae'n parhau'n bwysig i fusnesau, cyflogwyr a threfnwyr digwyddiadau ystyried yr hyn y gallant ei wneud i leihau lledaeniad y feirws, a diogelu eu gweithwyr a'u cwsmeriaid, gan gynnwys unrhyw amddiffyniadau ychwanegol ar gyfer y rhai sy’n fwy agored i niwed, gan gynnwys y rhai sy’n imiwnoataliedig neu’r rhai sy’n byw gyda rhywun sy’n agored i niwed.
Drwy barhau i weithredu mesurau rheoli iechyd y cyhoedd, bydd busnesau, cyflogwyr a threfnwyr digwyddiadau yn helpu i gadw lledaeniad y feirws yn isel, yn gwella hyder defnyddwyr ac yn lleihau'r posibilrwydd o darfu pellach.
Mae’r canllaw Cyngor iechyd y cyhoedd i fusnesau, cyflogwyr a threfnwyr digwyddiadau: coronafeirws yn cynghori ar sut y gall busnesau, cyflogwyr, sefydliadau, trefnwyr gweithgareddau a digwyddiadau yng Nghymruleihau risgiau iechyd y cyhoedd.
Gellir defnyddio’r Rhestr wirio mesurau rheoli iechyd y cyhoedd ar gyfer busnesau, cyflogwyr a threfnwyr digwyddiadau: coronafeirws i’ch helpu i ystyried pa fesurau rheoli sy’n dal i fod yn gymesur ac yn parhau i fod yn berthnasol yn eich gweithle neu’ch gweithgareddau.