Grantiau COVID-19 sy’n gysylltiedig ag Ardrethi Annomestig ar gyfer Busnesau yng Nghymru

Canllawiau ar y Cynllun

Fel rhan o’r pecyn ysgogiad ariannol i roi cymorth i fusnesau yng Nghymru yn ystod y pandemig COVID-19, mae Gweinidogion Cymru wedi cyflwyno dau gynllun grant nad oes angen eu had-dalu ar gyfer eiddo annomestig. Yn y ddogfen hon mae’r term ‘eiddo’ yn cyfeirio at hereditamentau wedi eu cofnodi yn y rhestr ardrethi annomestig ar gyfer Cymru.

Nod y ddau gynllun grant yw sicrhau cymorth ariannol ar gyfer busnesau a sefydliadau dielw sy’n gymwys cyn gynted ag y bo modd, a’u helpu i barhau i fod yn hyfyw. 

Mae awdurdodau lleol wedi nodi eu bod yn barod i gefnogi’r ymateb a’r ymdrech i adfer busnesau, drwy weinyddu’r grantiau hyn yng Nghymru ochr yn ochr â rhyddhad ardrethi estynedig blwyddyn o hyd ar gyfer rhai busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch sy’n gymwys ar gyfer 2020 21. 

Mae hon yn rhoi canllawiau ar y ffordd mae grantiau COVID-19 sy’n gysylltiedig ag Ardrethi Annomestig yn cael eu gweithredu a’u prosesu. Mae’r cynllun rhyddhad ardrethi estynedig yn cael ei drafod mewn canllawiau ar wahân. 

Dim ond i eiddo a oedd ar y Rhestr Ardrethi Annomestig ar 20 Mawrth 2020 y bydd y ddau Gynllun Grant yn berthnasol. Os nad oedd y talwr ardrethi ar y rhestr ar y dyddiad hwnnw, bydd pob awdurdod lleol unigol yn penderfynu, yn ôl ei ddisgresiwn, a ddylai’r busnes fod yn gymwys ar gyfer grant.

Yn y pen draw bydd y penderfyniad i roi’r grant yn cael ei wneud yn ôl disgresiwn yr awdurdod lleol, a dylid gwneud y penderfyniad hwn yn unol â phrif egwyddor y cynllun, sef darparu cymorth ar gyfer busnesau yr effeithiwyd arnynt yn negyddol.

Grant 1

Mae grant o £25,000 yn cael ei wneud ar gael i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch sydd mewn eiddo â gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £51,000.  

Amcangyfrifir bod hyd at 8,500 eiddo cymwys yng Nghymru, a byddai hyn yn golygu cyllid o tua £214 miliwn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu canllawiau ar gyfer rhyddhad ardrethi estynedig o ganlyniad i COVID-19 ar gyfer eiddo sy’n gartref i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch

Mae’r canllawiau hynny’n nodi mai’r eiddo a fydd yn gymwys ar gyfer y rhyddhad yw eiddo sy’n cael ei ddefnyddio’n llwyr neu’n bennaf at y dibenion canlynol:   

  • Fel siopau, bwytai, caffis, sefydliadau yfed, sinemâu a lleoliadau cerddoriaeth fyw 
  • Ar gyfer cyfarfodydd neu hamdden
  • Fel gwestai, tai llety neu lety hunanddarpar

Mae’r canllawiau yn rhoi rhestr fanwl o’r hereditamentau sy’n gymwys o dan y categorïau uchod. Mae hefyd yn rhoi rhestr o hereditamentau nad ydynt yn gymwys. Mae’r rhyddhad ar gael i sefydliadau dielw mewn eiddo cymwys, e.e. siopau elusen, gan gynnwys y rhai sydd eisoes yn gymwys ar gyfer rhyddhad rhannol gorfodol ar yr eiddo hwnnw.  

Wrth weinyddu Grant 1, bydd Llywodraeth Cymru a’r awdurdodau lleol sy’n gweinyddu’r grant yn defnyddio meini prawf cymhwysedd tebyg iawn i nodi hereditamentau manwerthu, hamdden a lletygarwch sy’n gymwys.

O 20 Ebrill 2020, mewn perthynas â llety hunanddarpar, ni fydd eiddo’n gymwys oni bai bod y meini prawf canlynol yn cael eu bodloni: 

  • Bod y llety hunanddarpar yn gallu dangos cyfrifon masnachu ar gyfer y ddwy flynedd yn uniongyrchol cyn blwyddyn ariannol gyfredol y busnes
  • Bod y llety hunanddarpar wedi cael ei osod am o leiaf 140 diwrnod ym Mlwyddyn Ariannol 2019–20
  • Mai’r busnes llety hunanddarpar yw prif ffynhonnell incwm y perchennog (o leiaf 50%)

Mae gan awdurdodau lleol ddisgresiwn llwyr i ofyn am gyfrifon masnachu busnesau, rhestri o archebion, a datganiadau hunanasesiad treth a gyflwynwyd i CThEM ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ar 31 March 2019, os oes angen tystiolaeth ychwanegol i ddangos bod y meini prawf hyn wedi cael eu bodloni. Mewn achosion lle mae awdurdodau lleol wedi penderfynu gofyn am dystiolaeth ychwanegol, ac mae’r dystiolaeth yn dangos nad yw meini prawf y cynllun wedi cael eu bodloni, mae’n ofynnol i awdurdodau lleol atal y grant. 

Yn ogystal, bydd nifer fach o eithriadau’n berthnasol, yn seiliedig ar ganllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer Cynllun Rhyddhad Ardrethi Parhaol i Fusnesau Bach yng Nghymru (2019). Mae’r eithriadau hyn yn cynnwys: 

  • Hereditamentau sy’n eiddo i gyngor, comisiynydd heddlu neu drosedd neu’r goron
  • Cytiau traeth
  • Hereditamentau a ddefnyddir dim ond at ddibenion arddangos hysbysebion, parcio cerbydau modur, gweithfeydd carthffosiaeth neu offer cyfathrebu electronig (e.e. peiriannau ATM)

Nid yw’r cyfyngiad eiddo lluosog sy’n berthnasol i’r Cynllun Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach yn berthnasol i Grant 1. Bydd pob eiddo sy’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd yn gallu cael mynediad at y cyllid grant. 

Bydd pob awdurdod lleol yn defnyddio’r meini prawf a’r canllawiau uchod i nodi busnesau yn ei ardal sy’n gymwys, yn seiliedig ar wybodaeth sydd ganddynt eisoes o ganlyniad i weinyddu’r system Ardrethi Annomestig. Wedyn bydd pob awdurdod lleol yn gwneud y canlynol: 

  • Hysbysu pob busnes cymwys am ei gymhwysedd ar gyfer grant (naill ai yn ysgrifenedig – yn electronig, drwy’r post neu’r ddau; neu drwy ddatganiad i’r wasg, gan gynnwys sianeli cyfathrebu digidol a’r cyfryngau cymdeithasol) 
  • Casglu unrhyw wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen gan fusnesau i alluogi prosesu a thalu’r grant (e.e. manylion cyfrif banc lle nad yw’r manylion hyn eisoes wedi eu cadw ar systemau presennol) 
  • Talu’r grant i fusnesau cymwys, yn ddelfrydol drwy drosglwyddiad uniongyrchol i’w cyfrif banc.

Gan gydnabod yr angen digynsail i weithredu’n gyflym, bydd Llywodraeth Cymru yn rhyddhau cyllid i bob awdurdod lleol i’w galluogi i ddyfarnu grantiau. Gwneir taliad cychwynnol ymlaen llaw, ac wedyn bydd awdurdodau lleol yn gallu tynnu cyllid i lawr mewn cyfrannau pellach oddi wrth Lywodraeth Cymru wrth i grantiau gael eu dyrannu. Bydd y trefniadau ar gyfer y cyllid yn cael eu hamlinellu mewn llythyron cynnig grant at awdurdodau lleol.  

Bydd awdurdodau lleol yn cadw cofnodion priodol o daliadau grant a wnaed, ac yn adrodd ar y rhain i Lywodraeth Cymru ar fformat ac amlder y cytunir arnynt.


Grant 2

Grant gwerth £10,000 i bob busnes sy’n gymwys ar gyfer Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach yng Nghymru sydd â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai. Amcangyfrifir bod hyd at 63,500 eiddo cymwys yng Nghymru, a fydd yn golygu cyllid o tua £635 miliwn.

Mae’r cyfyngiad eiddo lluosog sy’n berthnasol i’r cynllun Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach yn berthnasol i’r grant hwn. Felly, ni chaiff yr un talwr ardrethu dderbyn y grant ar gyfer mwy na dau eiddo mewn un awdurdod lleol. 

Ac

Mae grant gwerth £10,000 ar gael i bob trethdalwyr sy'n gymwys i gael rhyddhad elusennol a chymorth i Glybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol, sy'n gweithredu yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch mewn eiddo sydd â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai. Mae gan awdurdodau lleol ddisgresiwn i ddarparu grantiau i gyrff dielw y maent yn eu hystyried yn gweithredu at ddibenion elusennol ond nad ydynt yn cael rhyddhad elusennol na rhyddhad ardrethi annomestig ar hyn o bryd. Bydd y disgresiwn hwn ond yn berthnasol i sefydliadau dielw sy'n derbyn neu sydd â hawl i ryddhad ardrethi yn ôl disgresiwn ac sy'n gweithredu yn y sectorau manwerthu, hamdden neu letygarwch. 

Mae'r cyfyngiad eiddo lluosog sy'n gymwys i'r cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach yn berthnasol i'r grant hwn. Felly, dim ond ar gyfer uchafswm o ddau eiddo ym mhob awdurdod lleol y caiff yr un trethdalwr dderbyn y grant. Mae'r cyfyngiad eiddo lluosog hwn hefyd yn berthnasol i elusennau a Chlybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol.

 

O 20 Ebrill 2020, mewn perthynas â llety hunanddarpar, ni fydd eiddo’n gymwys oni bai bod y meini prawf canlynol yn cael eu bodloni:

  • Bod y llety hunanddarpar yn gallu dangos cyfrifon masnachu ar gyfer y ddwy flynedd yn uniongyrchol cyn blwyddyn ariannol gyfredol y busnes
  • Bod y llety hunanddarpar wedi cael ei osod am o leiaf 140 diwrnod ym Mlwyddyn Ariannol 2019–20
  • Mai’r busnes llety hunanddarpar yw prif ffynhonnell incwm y perchennog (o leiaf 50%)

Mae gan awdurdodau lleol ddisgresiwn llwyr i ofyn am gyfrifon masnachu busnesau, rhestri o archebion, a datganiadau hunanasesiad treth a gyflwynwyd i CThEM ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ar 31 March 2019, os oes angen tystiolaeth ychwanegol i ddangos bod y meini prawf hyn wedi cael eu bodloni. Mewn achosion lle mae awdurdodau lleol wedi penderfynu gofyn am dystiolaeth ychwanegol, ac mae’r dystiolaeth yn dangos nad yw meini prawf y cynllun wedi cael eu bodloni, mae’n ofynnol i awdurdodau lleol atal y grant.
   

Bydd pob awdurdod lleol yn defnyddio’r meini prawf hyn i nodi busnesau yn ei ardal a oedd yn gymwys ar 20 Mawrth 2020, yn seiliedig ar y wybodaeth sydd ganddynt eisoes o ganlyniad i weinyddu’r system Ardrethi Annomestig a’r cynllun Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach: Wedyn bydd pob awdurdod lleol yn gwneud y canlynol:

  • Hysbysu pob busnes cymwys am ei gymhwysedd ar gyfer grant (naill ai yn ysgrifenedig – yn electronig, drwy’r post neu’r ddau; neu drwy ddatganiad i’r wasg, gan gynnwys sianeli cyfathrebu digidol a’r cyfryngau cymdeithasol) 
  • Casglu unrhyw wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen gan fusnesau i alluogi prosesu a thalu’r grant (e.e. manylion cyfrif banc lle nad yw’r manylion hyn eisoes wedi eu cadw ar systemau presennol) 
  • Talu’r grant i fusnesau cymwys, yn ddelfrydol drwy drosglwyddiad uniongyrchol i’w cyfrif banc

Dylai pob darparwr gofal plant sy’n derbyn Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach o 100% dderbyn grant o £10,000.

Gan gydnabod yr angen i weithredu’n gyflym, bydd Llywodraeth Cymru yn rhyddhau cyllid i bob awdurdod lleol i’w galluogi i ddyfarnu grantiau. Gwneir taliad cychwynnol ymlaen llaw, ac wedyn bydd awdurdodau lleol yn tynnu cyllid i lawr mewn cyfrannau pellach oddi wrth Lywodraeth Cymru wrth i grantiau gael eu dyrannu, yn unol â’r amserlen a nodir mewn llythyron cynnig grant. 

Bydd awdurdodau lleol yn cadw cofnodion priodol o daliadau grant a wnaed, ac yn adrodd ar y rhain i Lywodraeth Cymru ar fformat ac amlder y cytunir arnynt.