BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Cyfarwyddyd, Document

Sicrwydd a hyblygrwydd - pecynnau adnoddau

Pecynnau adnoddau

Cyhoeddwyd gyntaf: 18 Ebrill 2024
Diweddarwyd diwethaf: 18 Ebrill 2024
Lawrlwytho'r ddogfen: 429.54 KB, PDF

Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.

Sut mae rhoi sicrwydd a hyblygrwydd i'ch gweithlu

Image removed.

Mae cynnig hyblygrwydd a sicrwydd swydd lle bo hynny’n bosibl yn elfen bwysig o Waith Teg.

Er mwyn cael y gorau gan eich gweithwyr, mae’n hanfodol eu bod yn cael yr hyblygrwydd i wneud eu gwaith o fewn realiti eu bywyd bob dydd, yn enwedig yn yr hinsawdd recriwtio heriol sydd ohoni heddiw. Ac i gael eich cydnabod fel cyflogwr Gwaith Teg, dylech bob amser fod yn deg ac yn dryloyw gyda’ch staff ynghylch gofynion a disgwyliadau pob rôl.

Dyma rai o’r ffyrdd y gall cynnig sicrwydd a hyblygrwydd i’ch staff fod o fudd i’ch busnes:

  • Bydd bod yn hyblyg a sicrhau bod eich gweithwyr yn teimlo’n ddiogel yn eu rolau yn hyrwyddo tegwch ar draws y sefydliad ac yn helpu i feithrin ymddiriedaeth gan eich timau.
  • Bydd rhoi mwy o reolaeth i’ch gweithwyr dros eu bywyd gwaith yn helpu i gynyddu cyfraddau cadw staff gan ei fod yn lleihau lefelau straen ac yn rhoi hwb i ymgysylltiad gweithwyr. Canfu ymchwil CIPD fod gweithwyr hyblyg yn debygol o gymryd mwy o ran, gan leihau trosiant staff 87%.
  • Gall cynnig hyblygrwydd o ran dyluniad swydd, oriau gwaith a gweithio o bell ddylanwadu’n gadarnhaol ar ba mor gynhyrchiol yw eich gweithlu, gyda 9 o bob 10 gweithiwr yn dweud eu bod yn ystyried gweithio hyblyg fel ysgogwr allweddol i’w cynhyrchiant yn y gwaith.
  • Mae 1 o bob 4 gweithiwr yn y DU yn profi lefelau cymedrol i uchel o weithio ansicr, sy’n gysylltiedig â gwaith annheg. Mae hyn nid yn unig yn niweidiol i’w hiechyd ond hefyd i’w cynhyrchiant a’u lefelau o ymrwymiad yn y gwaith. Gall darparu sicrwydd contract a rhoi digon o rybudd ynglŷn â phatrymau sifft ac unrhyw newidiadau helpu i fynd i’r afael â hyn.
  • Mae’r argyfwng costau byw hefyd yn ychwanegu at yr her i weithwyr a chyflogwyr. Yn ôl Awdurdod Ymddygiad Ariannol y DU, mae 67% o weithwyr yn cael trafferthion ariannol ar hyn o bryd. Drwy gynnig cymaint o ddiogelwch â phosibl o amgylch rolau eich staff, gallwch helpu i leihau rhywfaint o’r straen sy’n gysylltiedig â’u pryderon ariannol, ac yn ei dro gall hynny wella cynhyrchiant a pherfformiad busnes.

Beth allaf ei wneud fel cyflogwr i roi sicrwydd a hyblygrwydd i fy ngweithwyr?

Felly rydych chi’n deall manteision cynnig sicrwydd a hyblygrwydd i’ch gweithwyr. Ond pa gamau allwch chi eu cymryd i wireddu’r rhain yn eich busnes?

Dyma rai camau ymarferol i’w hystyried:

Darparu sicrwydd drwy warantu oriau eich gweithwyr

Ymrwymwch i sicrhau bod gweithwyr yn cael cynnig sicrwydd isafswm oriau wedi’u gwarantu. Peidiwch â rhoi contractau heb eu gwarantu – neu gontractau dim oriau – ar weithwyr yn unochrog, a rhowch ddigon o rybudd i’r holl weithwyr wrth wneud unrhyw newidiadau i’w patrymau shifft neu eu horiau.

Ystyried ffyrdd newydd o gynnig gweithio hyblyg/o bell

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed o alluogi 30% o weithwyr Cymru i weithio gartref neu’n agos at gartref. Drwy roi’r dewis i fwy o bobl weithio mewn ffordd sy’n eu helpu i wella eu cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a hefyd, o bosibl, rheoli cyfrifoldebau gofalu neu gyflyrau iechyd hirdymor, gall cyflogwyr elwa o fwy o deyrngarwch a chynhyrchiant.

Dyma rai enghreifftiau o wahanol fathau o weithio hyblyg:

  • Amser hyblyg
  • Amserlen gywasgedig
  • Gweithio hybrid
  • 100% o bell
  • Rhannu swydd
  • Amgylchedd Gwaith yn Seiliedig ar Ganlyniadau yn Unig
  • Rhannu shifftiau
  • Gwyliau blynyddol diderfyn
  • Wythnos waith 4 diwrnod

Cyn cyflwyno polisi gwaith hyblyg yn llawn, mae’n werth cynnal treial yn gyntaf gyda nifer cyfyngedig o weithwyr am fis o leiaf i gasglu digon o ddata i bennu pa mor ymarferol ydyw a chanfod problemau posibl.

Bydd angen i chi hefyd wneud yn siŵr bod eich rheolwyr wedi’u hyfforddi yn y ffordd orau o oruchwylio gweithwyr o bell yn effeithiol a sicrhau’r perfformiad gorau posibl.

Ystyried hyblygrwydd wrth ddylunio swyddi

Defnyddiwch hyblygrwydd o ran cynllunio swyddi, oriau gwaith a gweithio o bell i hyrwyddo cynhwysiant a gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Galluogwch y gweithwyr i gyd-greu eu ‘swyddi da’ eu hunain sy’n cael eu cefnogi gan reolwyr ac sy’n cyd-fynd â pholisïau ac arferion eich sefydliad. Drwy weithio gyda’ch gweithwyr i gynllunio eu swyddi fel hyn, byddwch nid yn unig yn diwallu anghenion y gweithwyr unigol yn fwy cywir, ond byddwch hefyd yn gallu gwella perfformiad eich sefydliad.

Cadw rhai trefniadau gwaith safonol hefyd

Os yw’n bosibl, ceisiwch gadw rhai amserlenni gwaith safonol ar gyfer y gweithwyr hynny y mae’n well ganddynt weithio ar y safle ac yn ystod oriau traddodiadol. Y syniad y tu ôl i bolisïau gwaith hyblyg yw rhoi mwy o opsiynau i weithwyr weithio pryd a ble maen nhw fwyaf cynhyrchiol, ond dydych chi ddim eisiau dieithrio’r rheini sy’n hapus gyda’r trefniadau presennol na gwneud bywyd yn anoddach iddyn nhw.

Cadw mewn cysylltiad

Dim ond pan fydd gweithwyr yn parhau i ymgysylltu a chysylltu â’i gilydd ac â’u rheolwyr y mae polisïau o bell yn gweithio’n dda. Fel arweinwyr, bydd angen i chi a’ch tîm rheoli barhau i annog cydweithio ymysg aelodau’r tîm a chynnal cyfleoedd iddynt ryngweithio a chymdeithasu â chydweithwyr eraill.

Pecyn cymorth - Sicrwydd a hyblygrwydd

Image removed.

Rydym wedi paratoi’r pecynnau adnoddau defnyddiol hyn – un ar gyfer pob egwyddor Gwaith Teg – i’ch helpu ar y llwybr tuag at ddod yn gyflogwr Gwaith Teg.

Mae sawl ffordd o roi mwy o sicrwydd a hyblygrwydd i’ch gweithlu a chyfoeth o adnoddau ac adnoddau ar-lein i’ch helpu i roi’r egwyddor hon ar waith ar draws eich sefydliad. Ond mae gwybod sut i lywio drwy’r holl wybodaeth yn gallu bod yn her, felly rydyn ni wedi casglu rhai o’r rhai mwyaf defnyddiol yma:

Achrediad Oriau Byw | Y Sefydliad Cyflog Byw 

Mae’r Sefydliad Cyflog Byw wedi datblygu diffiniad newydd o safon dda i’r cyflogwyr rheiny a all gynnig ‘Oriau Byw’ ochr yn ochr â Chyflog Byw Gwirioneddol. 

Cynllunio Swyddi | Taflenni Ffeithiau | CIPD

Mae’r daflen ffeithiau hon gan y Sefydliad Siartredig dros Ddatblygu Proffesiynol yn edrych ar gynllunio swyddi a chysylltiadau hynny â chymhelliant yn y gwaith, grymuso ac ansawdd swyddi. Mae’n edrych ar egwyddorion cynllunio swyddi, rôl dadansoddi swyddi a sut gall asesu ansawdd swyddi helpu.

Gweithio o Bell Cynhwysol | Pecyn Cymorth – Business in the Community

Mae’r pecyn cymorth hwn gan Business in the Community yn edrych ar sut mae sicrhau bod ffyrdd o weithio gartref, hybrid ac yn y swyddfa mor gynhwysol â phosibl, ac mae’n argymell ffyrdd gwahanol i fusnesau fynd i’r afael â’r dyfodol newydd o weithio hyblyg a gweithio o bell.

Beth Petai Eich Swydd o Les i Chi? –Business in the Community

Mae’r adroddiad hwn yn nodi’r camau amrywiol y gall cyflogwyr eu cymryd i drawsnewid lles yn y gwaith. Mae’n nodi sut gall arweinwyr busnes greu amgylchedd lle mae gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi i wneud eu gwaith gorau. Mae hefyd yn amlinellu sut mae sicrhau swyddi da i bawb sy’n sbarduno canlyniadau iechyd meddwl cadarnhaol cynaliadwy.

Lawrlwytho'r ddogfen: 429.54 KB, PDF

Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.