BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Airflo Fishing Products

Airflo Fishing Products

Rydym yn gweithio gyda Busnes Cymru ar sawl lefel wahanol a gallaf ond annog cwmnïau eraill i ddefnyddio eu harbenigedd.

Gydag Airflo Fishing Products yn dibynnu’n bennaf ar allforio eu cynnyrch, roedd y cyfarwyddwr gwerthu Gareth Jones yn bryderus am y gwerthiant yn arafu, oherwydd newidiadau polisi ynghylch mewnforio ac allforio ar ôl i Brexit ddigwydd.   

Er mwyn i’r busnes baratoi ac ymateb yn effeithiol i’r datblygiadau newydd, gofynnodd Gareth am gyngor allforio proffesiynol gan Busnes Cymru.

Mae Gareth bellach wedi bod yn gweithio gyda’i gynghorydd am 2 flynedd, lle dechreuon nhw gyda thrafodaethau strategol ynghylch sut i gyrraedd marchnadoedd allweddol newydd yn ogystal â pharhau ac ehangu’r rhai sydd eisoes yn bodoli. 

Er mwyn sicrhau bod Airflo Fishing Products yn parhau i gyrraedd cyfran o’r farchnad, bu cynghorydd Gareth yn trafod gwelliannau cynhyrchu a chynyddu’r capasiti cynhyrchu, ac mae’r busnes yn rhoi hyn ar waith ar hyn o bryd. 

Dysgwch fwy am allforio yma: Mynnwch Gymorth | Business Wales (gov.wales) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.