Mynnwch Gyngor Busnes Arbenigol
Mynnwch gymorth annibynnol a diduedd gan ein tîm o arbenigwyr.
Cymorth Busnes gan Entrepreneuriaid Profiadol
Cymorth i fusnesau Cymru gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.
Siaradwch â’n Hymgynghorwyr Profiadol
Cliciwch ar y botwm isod a llenwch y ffurflen i siarad ag aelod o’r tîm
Mae gan Fusnes Cymru'r holl wybodaeth, cyngor ac arweiniad sydd eu hangen arnoch i gynnal a thyfu eich busnes. Mae gan ein tîm o gynghorwyr profiadol ar draws Cymru brofiad cadarn o ddechrau, rhedeg a thyfu cwmnïau.
Gallwn gynnig amrywiaeth o gymorth gan gynnwys gwybodaeth, gweithdai, a chyngor ar lein, dros y ffôn a thrwy rith-gyfarfodydd, yn ogystal â chymorth arbenigol ar faterion -
- Cynllunio busnes a Chynhyrchiant
- Rheoli cyllid a llif arian
- Cynaliadwyedd
- Masnach ryngwladol
- AD
Dros y 5 mlynedd diwethaf, mae Busnes Cymru wedi helpu dros 12,500 o bobl i gychwyn neu dyfu eu busnesau, ac wedi helpu i lansio mwy na 5,000 o fentrau newydd hefyd.
Diolch i'n tîm profiadol o gynghorwyr busnes, gall entrepreneuriaid a BBaCh Cymreig fanteisio ar filoedd o oriau o arbenigedd o'r byd diwydiant i'w cynorthwyo gyda'u sialensiau busnes.
Dim ots a ydych chi'n chwilio am gymorth i farchnata eich busnes neu i reoli eich llif arian, rydyn ni yma i helpu i wneud eich busnes yn gadarn at y dyfodol.
Ffeindiwch y cymorth busnes sydd orau i chi gyda Busnes Cymru.
Mae ein gwybodaeth, cyngor ac arweiniad busnes ar gael i unrhyw fusnes sy'n masnachu yng Nghymru.
Rydyn ni'n cynnig amrywiaeth o gymorth gan gynnwys gwybodaeth, gweithdai, a chyngor ar-lein, dros y ffôn a thrwy rith-gyfarfodydd.
I gael cymorth am cliciwch ar y botwm cysylltu bydd aelod o dîm Busnes Cymru'n cysylltu â chi i drafod eich anghenion o ran cymorth.
R'yn ni yma i chi, i'ch busnes a'ch dyfodol.