BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

AromaRainbow Healing Feelings

Eve Crystal

"Mae fy musnes yn mynd o nerth i nerth, ac rwy'n teimlo mor gyffrous am lle ydw i nawr a'r hyn sydd i ddod."

Gall adeiladu busnes ar eich pen eich hun deimlo'n amhosib, fel y profodd Eve Crystal pan benderfynodd lansio AromaRainbow Healing Feelings gyntaf. Mae hon yn strategaeth ymdopi hunangymorth, unigryw, wedi'i chynllunio i ysgogi emosiynau a theimladau cadarnhaol, yn enwedig yn ystod adegau o straen, gorbryder neu iselder. 

Ar ôl cysylltu â Busnes Cymru i ofyn am gyngor i ddechrau arni, aeth ei hymgynghorydd ati'n gyflym i bennu’r cymorth, cyllid a hyfforddiant perthnasol a oedd ei angen ar Eve i ddechrau ei busnes yn llwyddiannus. Maent yn mynd i'r afael â nifer o agweddau craidd eraill ar ddechrau busnes, fel masnachu ar-lein, marchnata digidol a rheolaeth ariannol.

Ar ôl sefydlu bod Eve yn gymwys i wneud cais ar gyfer y Grant Rhwystrau rhag Dechrau Busnes, cafodd gymorth ei hymgynghorydd i wneud cais, a dyfarnwyd £2,000 iddi.

Caniataodd hyn i Eve fagu'r hyder i ddechrau masnachu a phrynu offer hanfodol. Mae ei busnes, AromaRainbow Healing Feelings, bellach yn mynd o nerth i nerth, gyda chymorth parhaus ei hymgynghorydd busnes.  

Cysylltwch â ni heddiw i ofyn am gymorth busnes: Mynnwch Gymorth | Business Wales (gov.wales)

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.