BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

BC Webb Media

BC Webb Media

Gyda chymorth Busnes Cymru, roeddwn yn gallu dechrau fy musnes Golygu Fideo a’i ddatblygu. Mae eu cefnogaeth wedi bod yn amhrisiadwy i mi.

Roedd Brian Hedges-Webb wastad wedi rhagweld rhedeg ei fusnes golygu fideo, ond nid oedd yn gallu datblygu ei syniad oherwydd prinder cyllid a hyder busnes.

Mae Brian wedi bod yn gweithio gyda Busnes Cymru am gwpl o flynyddoedd i ddatblygu ei ddealltwriaeth a gwybodaeth o lansio ei fusnes ei hun. Er mwyn rhoi dealltwriaeth glir i Brian sut i ddechrau busnes, fe fynychodd weminarau ‘Dechrau eich Busnes eich hun’ a ‘Treth a Chadw Cyfrifon’ yn ymdrin â phynciau busnes amrywiol, gan gynnwys cynllunio ariannol, marchnata, treth a chadw cyfrifon.

Yn gymwys i ymgeisio am y ‘Grant Rhwystrau rhag Dechrau Busnes ar gyfer unigolion 25 oed a hŷn’, cafodd Brian gefnogaeth gan gynghorydd busnes gyda’r cais, ac ysgrifennu cynllun busnes a rhagweliad llif arian.

O ganlyniad, lansiodd ei fusnes golygu fideo ei hun, BC Webb Media, ar ôl derbyn cyllid yn llwyddiannus, cyngor busnes a chynyddu ei hunan hyder!

A oes gennych chi syniad busnes?

Dechreuwch adeiladu eich busnes heddiw drwy gysylltu â’r tîm am gyngor a chefnogaeth Mynnwch Gymorth | Business Wales (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.