BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Beatus Cartons

Beatus Cartons

 

Sefydlwyd Beatus Cartons yn 1940 gan Jacob Beatus, ac ers hynny mae'r cwmni wedi mynd o nerth i nerth ac wedi datblygu o'i wreiddiau gwylaidd ar Hannah Street, Porth a'i ffatri ar Cymmer Road i'w leoliad presennol ar North Road, Porth. Dros y blynyddoedd, gan barhau i fasnachu o'n lleoliad yng Nghwm Rhondda, rydym wedi mentro i gyflenwi pecynnau carton i ystod eang o farchnadoedd - o felysion i fyrbrydau grawnfwyd, o wrtaith gerddi a hadau lawntiau i gynnyrch harddwch a gofal iechyd, o'r diwydiant modurol i fferylleg a llawer mwy.

Rydym yn hynod falch y credir mai Jacob Beatus Ltd (sy'n masnachu fel Beatus Cartons) yw'r unig gwmni preifat yn y DU sy'n cynhyrchu pecynnau plastig argraffedig o fyrddau solet â haen litho, dan yr un to gyda'r un tîm o weithwyr. Cefnogir y cwmni hefyd gan restr drawiadol o ardystiadau ansawdd ac amgylcheddol. Yn bwysicach fyth, mae ein llwyddiant wedi bod yn bosibl drwy weithlu ffyddlon a medrus, sydd wedi aros â'r cwmni trwy'r cyfnodau da a'r drwg. Heddiw, rydym yn falch o gael nifer o aelodau staff sydd wedi gweithio yma dros 40 mlynedd, sy'n glod mawr i'r busnes a'u ffyddlondeb. Ar hyn o bryd, rydym yn cyflogi 54 o staff llawn amser, y bydd eu swyddi'n cael eu diogelu gyda phrynu peiriannau newydd.

Pa heriau a phroblemau posibl yr oeddech chi'n eu hwynebu o ganlyniad i ansicrwydd Brexit?

Rydym wedi bod yn paratoi at y senario gwaethaf mewn perthynas â Brexit, yn enwedig o ran yr effaith y bydd yn ei chael ar ein cadwyn gyflenwi a'r canlyniadau posibl i'n cwsmeriaid. Yn allweddol i bob senario posibl, mae cynnal cadwyn gyflenwi gadarn a dibynadwy. Mae'r rhan fwyaf o'n deunyddiau crai bwrdd yn cael eu mewnforio o Ewrop, felly roedd gofyn i ni gysylltu â'n cyflenwyr allweddol. Heblaw am y cynnydd parhaus ym mhrisiau deunyddiau crai, y gyfradd gyfnewid ansefydlog a thariffau mewnforio posibl, y brif broblem yw efallai y bydd oedi gyda chwsmeriaeth.

Yn ogystal, mae gweithredwyr bwrdd wedi awgrymu y byddant yn cynyddu stociau warysau yn y DU i sicrhau bod anghenion cyflenwad yn cael eu bodloni ac yn sicrhau bod cyn lleied â phosibl o aflonyddwch. Byddwn yn annog cwsmeriaid i ymgorffori yn y gwaith cynllunio unrhyw amseroedd arwain a allai fod yn ofynnol. Yn y tymor byr, byddwn hefyd yn edrych ar gynyddu lefelau stoc fewnol ac yn gweithio gyda chwsmeriaid i bennu dull gweithredu cytbwys i hyn fel mesur dros dro nes y cyflawnir lefel o sefydlogrwydd unwaith eto.

Eich rhesymau dros ymgeisio am Gronfa Cydnerthedd Brexit: pa brosiectau fydd yn elwa o'r arian hwn a sut ydych chi'n credu y byddai'r gronfa yn eich helpu i fynd i'r afael â'r heriau a ddaw yn sgil Brexit?

I sicrhau ein bod yn parhau i allu bod yn gystadleuol ym marchnad pecynnau argraffedig y DU, dros y 2 flynedd diwethaf rydym wedi buddsoddi'n helaeth i gaffael y peiriannau cyfnewid argraffu a phecynnu diweddaraf a'r mwyaf datblygedig. I gyd-fynd â'r buddsoddiad sylweddol hwn, cydnabuwyd gan staff cynhyrchu a thimau rheoli bod dwy eitem arall o gyfarpar cyfalaf a oedd mewn angen brys i'w disodli:

  • Gilotîn (£60,950 + TAW)
  • Tröwr Pentyrrau (£38,000 + TAW)
  • Cyfanswm y ddau ased cyfalaf = £98,950 + TAW

Mae stocwyr bwrdd y DU wedi awgrymu yn sgil yr anawsterau posibl o ran cael meintiau deunyddiau unigryw, y byddant yn cadw meintiau stoc safonol y gellir eu prynu gydag amser arwain byrrach ond a fydd gofyn eu torri i lawr i'r maint gofynnol. Golyga hyn ei bod yn hynod debygol mai oherwydd yr oedi posibl yn neunyddiau bwrdd o Ewrop (nid oes gweithgynhyrchwyr yn y DU), y bydd gwaith trin a thorri deunyddiau stoc sydd wedi'u cael gan stocwyr bwrdd y DU yn cynyddu'n sylweddol. Doedd ein cyfarpar hŷn ddim yn addas na digon dibynadwy i'n galluogi ni i wneud hyn yn effeithiol a chystadleuol. Er mwyn sicrhau bod y deunyddiau rhy fawr hyn yn cael eu paratoi'n brydlon ac i'r ansawdd gofynnol, roedd gofyn i ni brynu peiriannau newydd, hanfodol.

Yn sicr, mae'r cyfarpar newydd wedi ein helpu ni i gynnal lefelau ein gwasanaeth. Un enghraifft yw cleient ohonom sydd â phencadlys yn Ffrainc. Cyn i Beatus ennill y cyfrif yn 2009, cafodd eu holl becynnau eu mewnforio i'r DU o'r cyfandir. Ers hynny, rydym wedi gweithgynhyrchu dros 1,700 o wahanol ddyluniadau carton iddynt a mwy na 10,000 o archebion ar wahân. Yn sgil yr amrywiaeth eang o feintiau deunyddiau a chaliprau sydd ynghlwm â'r gwaith, roedd gilotîn a thröwr pentyrrau dibynadwy yn amhrisiadwy i ni i sicrhau y gallwn fodloni gofynion amser arwain cwsmeriaid a pheidio â rhoi unrhyw reswm iddynt i chwilio am gyflenwr carton arall.

Ein blaenoriaeth nawr yw sicrhau bod cyfrifon ein cwsmeriaid yn cael eu cynnal a'u cadw, ac felly'n sicrhau ein hyfywedd ni fel busnes.

Cymorth Busnes Cymru

Ym mis Hydref 2018, gwnaethom ymholiad cychwynnol ynglŷn ag argaeledd posibl unrhyw grantiau gan yr Awdurdod Lleol a allai gynorthwyo'r cam nesaf yn ein prosiect buddsoddi. Yna, cynghorwyd ni i gysylltu â Busnes Cymru.

Fe'n penodwyd ni â Rheolwr Perthnasoedd, David Fisher, a dreuliodd amser i ddysgu mwy am ein hanes, ein hanghenion, pryderon a nodau i benderfynu lle gall Busnes Cymru ddarparu cymorth neu ddatrysiadau. Yn dilyn sawl ymweliad, rhoddodd David wybod i ni am Gronfa Cydnerthedd Brexit Llywodraeth Cymru sydd newydd fynd ar gael.

Gyda chymorth gan David, bu i ni gwblhau Mynegiant Buddiant a darparu'r holl wybodaeth hanfodol i arddangos y byddem yn ymgeisydd teilwng am ystyriaeth. Ychydig fisoedd ar ôl ein cyswllt cyntaf â David, roeddem yn hynod falch o gael gwybod bod ein cais wedi llwyddo yng ngham cyntaf y broses gymeradwyo a chawsom ganiatâd gan yr awdurdod i symud ymlaen gyda'n prosiect buddsoddi arfaethedig. Yn gryno, byddai ein buddsoddiad o £98,950 yn cael ei gyfateb i 50/50 o'r gronfa Brexit sydd ar gael. Yn holl 79 mlynedd o hanes y cwmni, dyma'r cymorth ariannol mwyaf yr ydym erioed wedi'i gael. Erbyn gwanwyn 2019, roeddem yn falch o dderbyn ein tröwr pentyrrau a gilotîn newydd, ac rydym yn hynod ddiolchgar i Busnes Cymru, ac yn arbennig i David am ei arweiniad, cymorth a'i broffesiynoldeb trwy gydol y prosiect. Rydym yn ddiolchgar dros ben.

Pa weithgareddau eraill ydych chi'n eu gwneud i baratoi eich busnes ar gyfer ymadawiad y DU o'r UE?

Rydym wedi bod yn gweithio'n agos â chwsmeriaid a chyflenwyr tebyg i sicrhau bod gennym ddealltwriaeth well o'r effaith y gall Brexit heb gytundeb ei chael arnynt. Drwy weithio mewn partneriaeth, rydym wedi ennill gwybodaeth werthfawr o'r oedi, aflonyddwch a chostau posibl gall Brexit heb gytundeb eu cyflwyno.

Mae adolygu tariffau Sefydliad Masnach y Byd yn rhoi dealltwriaeth i'r goblygiadau costau posibl nid yn unig i'n busnes ni, ond i'r gylchred fusnes gyfan o'r dechrau hyd y diwedd. Mae cyfathrebu parhaus gyda'n cwsmeriaid mewn perthynas ag amseroedd arwain ac oedi posibl wedi'u caniatáu nhw i gynllunio eu gofynion pecynnu ar gyfer y dyfodol a gwneud archebion ymlaen llaw i sicrhau cyflenwad di-dor.

Yn ogystal, rydym wedi sefydlu Tîm Brexit mewnol i adolygu'r sefyllfa barhaus a sicrhau bod holl feysydd y busnes yn ymwybodol o unrhyw broblemau posibl. Mae'r tîm hefyd wedi ymgymryd â gweminarau ar-lein gan CThEM. Y gwirionedd yw bod angen i ni baratoi at bob math o ganlyniad a bod mewn lle i ymateb yn sydyn pan gyhoeddir Brexit â chytundeb neu Brexit heb gytundeb.

I gael rhagor o wybodaeth am sut i baratoi eich busnes ar gyfer Brexit, ewch i Borth Brexit Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.