BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Gwesty Hendrewen

Martin Roberts outside the Hendrewen Hotel

Rydw i’n berson llawn syniadau. ‘Planhigyn’. Symbylwr. Gweledydd. Entrepreneur pybyr. Arbenigwr eiddo ar y teledu. Roeddwn i angen tîm cynghori a allai droi fy syniadau a’m gweledigaeth yn gyfle busnes hyfyw. Tîm a fyddai’n gwybod am y fiwrocratiaeth a’r rhwystrau. Tîm a allai helpu i rannu fy nghyfle busnes anhygoel mewn iaith y byddai’r byd busnes yn ei deall.

Tîm a allai ddod o hyd i broblemau gweithredol, AD, cyfreithiol a gweithdrefnol cyn iddyn nhw godi. Megis dechrau y mae ein perthynas weithio gyda Phil a’i dîm yn Busnes Cymru, ond rydw i eisoes yn teimlo fel pe bawn yn cael fy niogelu, fy nghefnogi a’m grymuso o wybod eu bod yn gweithio ochr yn ochr â mi. O ganlyniad uniongyrchol i’w cyfraniad, mae gan y prosiect siawns well o lawer o gyflawni’r llwyddiant y gobeithiaf ei weld.

Mae Martin Roberts, cyflwynydd Homes Under the Hammer, ac entrepreneur hynod frwdfrydig, wedi prynu’r Gwesty Hendrewen gwag yng Nghwm Rhondda, gyda’r gobaith o weddnewid y gwesty’n dafarn gastro, bwyty ac atyniad i ymwelwyr, ac yn llety moethus llawn cymeriad.

Er mwyn troi’r weledigaeth uchelgeisiol hon yn fusnes hyfyw, cysylltodd Martin â Busnes Cymru i gael cymorth er mwyn sicrhau y gallai gydymffurfio â materion cyfreithiol AD ac unrhyw faterion gweithredol a gweithdrefnol. 

Mae ei gynghorydd busnes yn rhoi cymorth cyn cychwyn iddo yn ymwneud â statws cyfreithiol, AD ac uchelgeisiau o ran cynaliadwyedd. Hefyd, mae Martin wedi cael ei dywys trwy’r broses ymgeisio am grantiau gyda nifer o sefydliadau gwahanol.

Bydd Martin yn cefnogi’r gymuned leol drwy gydol y broses drawsnewid, ac yn ddiweddar fe ymgysylltodd â Realskillz. Mae’r fenter hon yn cynorthwyo pobl ifanc 15-18 oed sy’n cael anawsterau yn y system addysg draddodiadol i ennill cymwysterau amhrisiadwy’n ymwneud â’r diwydiant adeiladu, a hynny pan fônt yn ifanc.

A oes gennych weledigaeth i adeiladu busnes? 

Gallwn ni eich helpu!

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol Mynnwch Gymorth | Business Wales (gov.wales) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.