BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Mimimade.ua

Ar ôl ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin, a symud i Gymru, roedd Oleksandra Ivanchenko yn benderfynol o ailddechrau ei busnes, Mimimade.ua, sy’n cynhyrchu teganau meddal ac yn eu gwerthu.

Gan ei bod yn gorfod dechrau ei busnes eto o’r newydd, cysylltodd â Busnes Cymru am gefnogaeth dechrau busnes, gan ei galluogi i ailadeiladu ei busnes yng Nghymru. Cafodd gefnogaeth ei chynghorwr gyda chyllid, trethi a marchnata, yn ogystal â darparu mynediad at y cyfieithiad o’r weminar dechrau busnes mewn Wcreineg. 

Wedi ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin, rwy’n ddiolchgar iawn i Busnes Cymru am y gefnogaeth a ddarparwyd er mwyn dechrau fy musnes fy hun.

Gan fod Oleksandra yn gymwys i ymgeisio am y Grant Rhwystrau rhag Dechrau Busnes ar gyfer unigolion 25 mlwydd oed a hŷn, cefnogodd ei chynghorwr hi gyda’r broses ymgeisio. Bu iddi dderbyn yr arian yn llwyddiannus, a alluogodd iddi brynu peiriant gwnïo, a bwrdd gwnïo, gan ganiatáu i Oleksandra ddechrau masnachu yng Nghymru! 

Ydych chi wedi symud i Gymru ac angen cyngor busnes? Gallwn ni eich cefnogi chi Mynnwch Gymorth | Business Wales (gov.wales) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.