BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Morgan’s Wigs

Morgan’s Wigs

 

Darparwr wigiau cenedlaethol a chanddynt ragor na 11 mlynedd o brofiad yw Morgan’s Wigs. Agorodd sylfaenydd a Chyfarwyddwr y busnes, Rebecca Morgan-Brennan, triniwr gwallt sydd â chymwysterau uchel, ei salon ei hun, Morgan’s Hair and Beauty, yn 2013. Dechreuodd ei thaith gyda wigiau pan ofynnodd ffrind agos iddi am gyngor ynghylch y ffaith ei bod yn colli ei gwallt ar ôl cael diagnosis o ganser y fron.

Ysbrydolodd hyn i Rebecca gychwyn helpu eraill oedd yn dioddef o gyflwr colli gwallt oherwydd achos meddygol. Sefydlodd Morgan’s Wigs ym mis Hydref ar ôl sicrhau contract gyda GIG Gogledd Cymru a olygai na allai cleifion Betsi Cadwaladr ddefnyddio eu talebau Morgan’s Wigs pan oeddent yn prynu wig.

Yn Nhachwedd 2018, penderfynodd Rebecca symud i safle mwy, yn ateb i dwf cyflym ac ehangiad y busnes.

Beth ddaru nhw

Dechreuodd Rebecca fusnes Morgan’s Wigs ym mis Hydref 2016 yn dilyn tendr llwyddiannus am gontract gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddarparu gwasanaeth gosod wigiau wedi’i reoli’n llawn, sy’n cynnwys ymgynghoriad, darparu, gosod a thorri wigiau.

Beth fuasant yn ei wneud yn wahanol

“Bydden ni wedi gwneud dim yn wahanol i’r hyn a wnaethom yn sefydlu ein busnes. Rydyn ni’n hynod o falch i allu tyfu ac ehangu heb gymorth ariannol unrhyw fanc. Mae gennym dîm gwych o staff sydd wedi’u hyfforddi i safon uchel ac sy’n gweithio gyda’i gilydd i gynnig gwasanaeth anhygoel.” - Rebecca Morgan-Brennan

Eu adeg mwyaf balch mewn busnes

“Mae gennym gryn dipyn o adegau balch mewn busnes: Yn llwyddiannus yn ennill gwobr cytundeb GIG ddwywaith i ddarparu wigiau i gleifion yng Ngogledd Cymru; cael ein hychwanegu at y rhestr o gyflenwyr Cadwyn Gyflenwi Genedlaethol i’r GIG i gyflenwi cleifion ledled Lloegr; cael ein henwebu ar gyfer gwobr gymunedol a gynhaliwyd gan Ffederasiwn Trinwyr Gwallt Cenedlaethol; symud i safle newydd gwych ym Mhrestatyn ac agor dwy siop wigiau yng Nghaer a Coventry.”

"Rydym hefyd yn hynod falch o fod yn gweithio gyda Chymdeithas Syndrom Down (DSA) i gynnig y cyfle i berson ifanc sydd â syndrom Down i fod yn rhan o’n busnes, i feithrin ei hyder a’i sgiliau pobl tra mae hefyd yn tyfu fel unigolyn." Darllenwch ragor am eich gwaith gyda'r DSA yma.

Ydynt yn defnyddio’r iaith Gymraeg yn eu busnes? Os ydynt, sut mae hyn wedi eu helpu

“Mae fy mab yn gweithio i’r busnes ac mae e’n siaradwr Cymraeg. Er mwyn ennill contract wigiau Betsi Cadwaladr, mae’n rhaid i ni gael aelod o staff sy’n siarad Cymraeg. O bryd i’w gilydd, mae angen i fy mab gymryd rhan mewn ymgynghoriad os yw claf yn fwy cyfforddus yn siarad Cymraeg, gan ein bod yn gweld llawer o gleifion o Wynedd.”

Disgrifiwch y math o gefnogaeth (ariannol / an-ariannol) maen’t wedi ei gael gan Busnes Cymru / Llywodraeth Cymru

Fe wnaeth cynghorydd tendro Busnes Cymru, Guto Carrod helpu Rebecca gyda’r ceisiadau i Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac i gael cymorth pellach i dendro ar gyfer contract NHS England, y bu iddynt lwyddo i’w ennill. Fe wnaeth hyn helpu Rebecca i symud ymlaen yn hyderus i ddatblygu a thyfu ei busnes, gan greu 5 swydd newydd.

Darparodd gynghorydd Busnes Cymru, Sian E Jones gymorth busnes pellach, gan gynnwys adolygiad o’r busnes ac archwiliodd ddewisiadau cyllid er mwyn gosod lifft grisiau i alluogi hygyrchedd llwyr i’r salon.

Dywedodd Rebecca: Fe wnaeth [gwasanaeth cymorth busnes blaenllaw Llywodraeth Cymru] Busnes Cymru ein helpu ni i ennill ein contract cyflenwi wigiau GIG cyntaf un gyda Betsi Cadwaladr. Bu’r gefnogaeth a’r gyfathrebiaeth a gynigiodd y cynghorwyr a’r tîm ehangach yn rhagorol. Prin iawn oedd ein gwybodaeth am sut i dendro am gontract ac fe wnaeth Busnes Cymru’r broses yma’n hawdd a dealladwy.”

Cyngor Dda

Dyma gynghorion doeth Morgan’s Wigs i’r sawl sy’n dymuno cychwyn neu dyfu ei fusnes ei hun:

  • gweithiwch yn galed
  • defnyddiwch bob ffurf ar y cyfryngau cymdeithasol neu hysbysebu am ddim
  • ymdriniwch â’ch staff bob amser yn y ffordd yr hoffech chi gael eich trin
  • peidiwch â disgwyl i rywun gyflawni rhywbeth nad ydych yn barod i’w gyflawni eich hun
  • mae Gwasanaeth i Gwsmeriaid yn allweddol

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.