BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

MPE Ltd

“Diolch i’r cymorth gan Busnes Cymru, mae MPE Ltd wedi cael yr hyder i fuddsoddi mewn cyfleuster prosesu dur gloyw newydd.” 

Missing media item.

 

Roedd y cwmni prosesu a gorffen dur gloyw, MPE Ltd, yn awyddus i ehangu ei wasanaethau ac agor cyfleuster prosesu newydd yn Ne Cymru.

I gael y cyfleuster newydd, fe gafodd Colin Owen, cyfarwyddwr y cwmni, gyfle i drafod Taleb Arloesi gyda’i ymgynghorydd o Busnes Cymru, a fyddai’n opsiwn hyfyw i gefnogi’r prosiect newydd.

O ran arfer da, fe’i cynghorwyd hefyd i ddatblygu cynllun cydraddoldeb a chynaliadwyedd, gan sicrhau bod MPE Ltd yn flaenllaw o safbwynt datblygu a chynaliadwyedd yn y diwydiant dur gloyw.

Ers derbyn y cymorth hwn, rydym wrth ein boddau’n cael clywed bod y cyfleuster newydd ar agor bellach yn Abertawe. Bydd yn ymgorffori cyfleuster golchi pwysedd tra uchel, ynghyd â chyfleusterau electro-lathru ychwanegol.

Ydych chi angen cymorth i dyfu a datblygu eich busnes? Cysylltwch â’n tîm heddiw! Mynnwch Gymorth | Business Wales (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.