BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Pure Serendipity Florist Ltd

“Rhoddodd Busnes Cymru gymorth i mi ddechrau fy musnes fy hun ar adeg anodd, mae’r cymorth yn anhygoel.” 

 

Gall dechrau busnes newydd fod yn brofiad brawychus, ond gyda chymorth trylwyr ar gyfer dechrau busnes, gydag un o’n tîm yn Busnes Cymru, fe ddaeth Melanie Freeman yn ddigon hyderus i ddechrau meithrin ei busnes blodeuwriaeth y Abertawe.

I gael dealltwriaeth dda o hunangyflogaeth, fe dderbyniodd Melanie gymorth un i un gan ei hymgynghorydd, a roddodd wybodaeth iddi ynghylch bob agwedd ar redeg busnes. I ariannu gwaith sefydlu cychwynnol y busnes, fe’i cynghorwyd i wneud cais am y Grant Rhwystrau rhag Dechrau Busnes ar gyfer rhai sy’n 25 oed a throsodd. Derbyniodd gymorth i lunio cynllun busnes ac ariannol, a oedd wedi sicrhau ei bod wedi llwyddo i dderbyn y cyllid.

Erbyn hyn, mae’r busnes blodeuwriaeth newydd yn masnachu fel Pure Serendipity Florist Ltd. I sicrhau bod y busnes yn cymryd camau cynaliadwy mewn modd rhagweithiol, mae Melanie wedi cofrestru ar gyfer yr Addewid Twf Gwyrdd, sy’n anelu at greu cyn lleied o wastraff â phosib, a defnyddio deunyddiau pacio ailgylchadwy lle bo modd.

A fyddech chi’n hoffi bod yn hunangyflogedig? Gallwn roi gwybodaeth i chi am bob agwedd ar redeg busnes. Mynnwch Gymorth | Business Wales (gov.wales) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.