BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Smoothie Den

Smoothie Den stall at Swansea Market

Mae fy nghynghorydd Busnes Cymru yn fentor arbennig, ac rwyf bellach yn gallu cynnig y smwddis a’r suddion gorau ym marchnad Abertawe.

Ar ôl ymddeol, penderfynodd Dr Sreekanth Tinnelveli ddechrau busnes bar sudd yn Abertawe.

Er mwyn sicrhau bod Dr Sreekanth yn gallu datblygu ei uchelgais yn fusnes masnachu, cysylltodd â Busnes Cymru i ofyn am gyngor a chymorth arbenigol. Ac yntau wedi mynychu ein gweminar Dechrau Busnes, datblygodd gynllun busnes a rhagolwg llif arian gyda’i gynghorydd busnes, gan sicrhau bod modd monitro cynnydd y busnes dros amser.

Mae Smoothie Den bellach yn masnachu’n llwyddiannus ym marchnad Abertawe, yn cynnig smwddis, ysgytlaeth a suddion iach i bobl Abertawe.

A ydych chi eisiau gwireddu eich syniad busnes? Gall Busnes Cymru eich helpu chi! Mynnwch Gymorth | Business Wales (gov.wales) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.