BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Tudno Tours

Trevor taylor standing in front of mini bus

Roedd ymddeol yn gynnar i gychwyn fy musnes yn benderfyniad brawychus. Mae o wedi bod yn grêt cael rhywun sydd wedi’i neilltuo’n arbennig ar fy nghyfer i, i roi arweiniad i mi ar wahanol adegau yn ystod fy nhaith.

Ar ôl cyflawni gyrfa helaeth mewn dysgu, fel Pennaeth Daearyddiaeth, penderfynodd Trevor Taylor fentro i feithrin ei fusnes ei hun fel gweithredwr teithiau bws mini yng Ngogledd Cymru.

Darparodd ymgynghorydd Busnes Cymru arweiniad un i un i Trevor ar brydlesu cerbydau, yswiriant a thrwyddedu, ynghyd â chofrestru â CThEF/HMRC. Roedd hefyd wedi mynychu gweminarau cychwyn busnes, a ddarparodd gymorth i lunio cynllun busnes, ac ynglŷn â llif arian, strategaeth farchnata a cheisiadau am gyllid.

O ganlyniad i dderbyn bob math o gefnogaeth, roedd Trefor yn ddigon hyderus i ddechrau rhedeg ei fusnes newydd, Tudno Tours.

Ydych chi eisiau newid gyrfa a meithrin eich busnes eich hun? Gallwn eich helpu ym mhob agwedd ar ddechrau busnes newydd. Mynnwch Gymorth | Business Wales (gov.wales) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.