BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Willow Bespoke Ceremonies

“Rwyf wedi dysgu cymaint, mae fy musnes yn dechrau tyfu go iawn, diolch i Fusnes Cymru.”

Missing media item.

 

Wedi ymrwymo i gymhwyso fel gweinydd dinesig i gynnal angladdau, priodasau a seremonïau enwi, cysylltodd Jane Jones â Busnes Cymru am gymorth dechrau busnes ac opsiynau cyllido.

Mynychodd Jane ein gweminarau ‘Dechrau a Chynnal Busnes’ a ‘Threth a Chadw Llyfrau’ i ddysgu mwy am redeg busnes.

Gyda chymorth ei hymgynghorydd, derbyniodd Jane y Grant Rhwystrau rhag Dechrau Busnes i bobl 25 oed a hŷn, gan ei galluogi i gael hawl i gwrs hyfforddi achrededig cenedlaethol a chostau tuag at ei gwefan a deunyddiau marchnata.

Mae Jane bellach yn weinydd cymwys yng Ngogledd Cymru, ac wedi dechrau ei busnes, Willow Bespoke Ceremonies.

Hoffech chi gymorth i ddechrau eich busnes?  Cysylltwch â’r tîm heddiw! Mynnwch Gymorth | Business Wales (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.