BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

ZUKR Limited

ZUKR Limited

Rydym wedi derbyn cymorth anhygoel gan Fusnes Cymru sydd wedi ein cynorthwyo o ddechrau ein syniad am fusnes i greu cynllun cadarn i roi'r syniad ar waith. Mae ein mentoriaid Miranda a Phil wedi bod yn anhygoel, wedi bod ar gael i roi arweiniad, camau gweithredu a chyfeiriad inni. Maent wedi bod yn glust mor bwysig gan roi arweiniad gwerthfawr sydd wedi'n cynorthwyo i osod sylfaen gref i'n busnes allu tyfu. Diolch, Busnes Cymru, am eich holl gymorth a chefnogaeth! Nabila Fowles-Gutierrez & Luke Goddard

Cyn cychwyn eu busnes, aeth Nabila Fowles-Gutierrez a Luke Goddard i'n gweminar Dechrau i Dyfu ble cawsant eu harwain drwy'r broses gychwynnol i roi'r hyder a'r sgiliau iddynt gynhyrchu eu cynllun busnes. 

Yna cawsant gymorth 1 i 1 gan ymgynghorydd, gan ganolbwyntio ar ddatblygu eu strategaeth farchnata a'u galluogi i gychwyn eu busnes eu hunain, ZUKR Limited, cynnyrch sy'n ddewis naturiol arall yn lle siwgr.

Maent bellach wedi dechrau gwerthu eu cynnyrch ar eu gwefan eu hunain a thrwy wefannau manwerthu ar-lein eraill. 

Mae eu hymgynghorydd busnes yn parhau i roi cymorth i'w cynlluniau twf ac adeiladu perthnasoedd ar y cyd gyda chysylltiadau allweddol mewn prifysgolion a all gydweithio â nhw ar ddatblygu cynhyrchion newydd.

Pe baech eisiau cychwyn a thyfu busnes eich hun, ewch i: Dechrau a Chynllunio Busnes | Drupal (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.