BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

A all eich busnes gefnogi goroeswyr Caethwasiaeth Fodern i gael gafael ar gyflogaeth ddiogel a pharhaol?

Warehouse worker

Yn 2023, nodwyd bod dros 17,000 o oroeswyr Caethwasiaeth Fodern yn y Deyrnas Unedig. Hyd yn oed ar ôl cyfnod penodol o gael eu cefn atynt, gall goroeswyr barhau i wynebu nifer o rwystrau ymarferol ac emosiynol wrth geisio dod o hyd i gyflogaeth ddiogel a pharhaol o ganlyniad i'r camfanteisio arnynt.

Nod Bright Future Co-operative yw chwalu'r rhwystrau hyn trwy gynnig llwybr cyflym a chefnogol at gyflogaeth ddiogel.  Mae'r sefydliad eisoes yn gweithio gyda nifer o gwmnïau ledled y Deyrnas Unedig i gyflawni hyn, gan gynnwys Morrisons, Curry's, Balfour Beatty, a The Co-op Group. I oroeswyr, mae cyflogaeth ddiogel yn cynnig rheolaeth dros eu dyfodol a rhyddid ariannol i leihau'r risg o ddioddef camfanteisio eto a'u galluogi i gyrraedd annibyniaeth gynaliadwy.

Mae Bright Future Co-operative wedi ehangu i Gymru yn ddiweddar ac mae'n awyddus i weithio gyda busnesau i gefnogi goroeswyr Caethwasiaeth Fodern i gael gwaith.  Mae galw mawr am rolau hygyrch yng Nghymru ar gyfer goroeswyr.

Mae gweithio gyda chwmni cydweithredol Bright Future yn fenter gwerth cymdeithasol ardderchog i gryfhau eich ymdrechion o ran cynaliadwyedd ac arallgyfeirio eich gweithlu gyda demograffig gwydn. 

Os hoffech ddysgu mwy, cliciwch ar y ddolen ganlynol: https://www.wearecauseway.org.uk//wp-content/uploads/2024/07/Bright-Future-Co-operative-Leaflet.pdf. Gellir cysylltu â Bright Future Co-operative ar info@brightfuture.coop a cheir crynodeb o'u busnes yma Accessing Our Services | Causeway Charity (wearecauseway.org.uk).

Nid yw Bright Future Co-operative yn gysylltiedig â Llywodraeth Cymru. I gael rhagor o o wybodaeth am Gaethwasiaeth Fodern a sut i adnabod yr arwyddion, cliciwch yma.

Mae caethwasiaeth fodern yn her fyd-eang, ond gall pob un ohonom wneud ein rhan i fynd i'r afael â'r drosedd echrydus hon a'i hatal. Dyma eich cyfle i fod yn rhan o'r ateb drwy ddod i gynhadledd Gwrthgaethwasiaeth Cymru 2024.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.