BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Amserlen ddiwygiedig ar gyfer cyflwyno mesurau rheoli mewnforion ar y ffiniau

Bydd amserlen newydd ar gyfer cyflwyno prosesau rheoli mewnforion ar y ffiniau yn galluogi busnesau’r DU i ganolbwyntio ar adferiad yn dilyn pandemig COVID. Nawr, bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno prosesau rheoli ffiniau llawn, chwe mis yn hwyrach na’r bwriad gwreiddiol.

O 1 Hydref 2021: 

  • Bydd angen gofynion cyn-hysbysu ar gyfer cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid, bwyd risg uchel nad yw’n dod o anifeiliaid (HRFNAO) a sgil-gynhyrchion anifeiliaid penodol.
  • Bydd angen tystysgrifau iechyd ar gyfer cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid a sgil-gynhyrchion anifeiliaid penodol.

Am ragor o wybodaeth am fewnforio neu symud anifeiliaid byw, cynhyrchion anifeiliaid a bwyd risg uchel a phorthiant sy’n dod o anifeiliaid, ewch i GOV.UK.


Am ragor o wybodaeth am fewnforio neu symud pysgod i’r DU, ewch i GOV.UK.

O 1 Ionawr 2021

  • Bydd angen datganiadau Diogelwch ar gyfer nwyddau sy’n cael eu mewnforio.
  • Cynhelir archwiliadau SPS ffisegol ar gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid, sgil-gynhyrchion anifeiliaid penodol, HRFNAO a phlanhigion risg uchel, ar Safleoedd Rheoli Ffiniau.
  • Bydd gofynion cyn-hysbysu ac archwiliadau o ddogfennau, gan gynnwys tystysgrifau ffytoiechydol, yn cael eu cyflwyno ar gyfer planhigion risg isel a chynhyrchion planhigion.
  • Bydd angen datganiadau tollau ar yr holl nwyddau wrth fewnforio, ac ni fydd busnesau’n gallu defnyddio’r cynllun datgelu a ohiriwyd.

O 1 Mawrth 2022: 

  • Archwiliadau ar Safleoedd Rheoli Ffiniau ar anifeiliaid byw, planhigion risg isel a chynhyrchion planhigion.
  • Bydd masnachwyr sy’n symud nwyddau a reolir i Brydain Fawr yn parhau i fod yn anghymwys ar gyfer y dull datgelu tollau a ohiriwyd. Felly, bydd gofyn iddynt gwblhau datganiad tollau llawn, pan fydd y nwyddau yn dod i mewn i Brydain Fawr.

Am ragor o wybodaeth am y cyhoeddiad, ewch i GOV.UK.  

Am ganllaw cam wrth gam ar fewnforio nwyddau i’r DU, ewch i GOV.UK. . 

Am ragor o wybodaeth am sut i baratoi eich busnes ar gyfer y rheolau newydd rhwng y DU a’r UE, ewch i Borth Cyfnod Pontio'r UE Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.