BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Blogiau

Arwain Agweddau

Mae gwerthu arloesol yn aml yn cael ei gyflawni ar sail arwain agweddau. Mewn amgylcheddau cynyddol gystadleuol, yr enillwyr yw'r rheiny sy'n gyrru'r farchnad ac yn gwneud eu safbwyntiau, eu barn a'u syniadau yn hysbys i wneuthurwyr penderfyniadau a dylanwadwyr allweddol. Y rheiny nad ydynt yn syrthio ar fin y ffordd ac yn dod yn rhan o griw "fi hefyd" o gyflenwyr. Mae Microsoft yn enghraifft wych o roi ‘arwain agweddau’ ar waith. 

Mae arwain agweddau yn aml yn cynnwys unigolion a sefydliadau sy'n cynhyrchu papurau gwyn ac adroddiadau ar arsylwadau, tueddiadau a datblygiadau o fewn eu marchnadoedd, sectorau a diwydiannau perthnasol. (Cymerwch gipolwg ar wefannau cwmnïau fel cyfrifwyr byd-eang PWC - llawer o adroddiadau a thaflenni ffeithiau). Mae rhai unigolion wedi marchnata eu hunain yn rhagweithiol fel "dyfodolegwyr" ar gyfer eu diwydiant. Mae hyn yn aml yn tynnu sylw atynt ac yn eu gwneud yn gyfranwyr rheolaidd i gyfnodolion y diwydiant, ac annerch mewn cynadleddau a digwyddiadau rhwydwaith y diwydiant.

Mewn diwydiannau sy'n seiliedig ar wybodaeth a gwasanaethau proffesiynol, mae'r dull hwn o ddatblygu busnes wedi dod yn fwyfwy poblogaidd. Mae cwsmeriaid wedi blino ar y toreth o lenyddiaeth farchnata yn dweud wrthyn nhw pa mor dda yw eu cyflenwyr - beth maen nhw eisiau yw gwerth a syniadau fydd yn eu helpu nhw a'u busnes i wella. 

Dylai unrhyw entrepreneur neu weithiwr gwerthu proffesiynol blaengar ystyried sut maen nhw'n gwella eu brand personol drwy ddod yn arbenigwyr cydnabyddedig yn yr hyn maen nhw'n ei wneud - meistri eu masnach. Pan fyddwch chi neu'ch busnes yn cael eich cydnabod fel arbenigwr, mae'n darparu'r pwynt gwahaniaethu hwnnw sydd ei angen mor aml mewn marchnadoedd llawn dop.

Ysgrifennwyd y blog gan Winning Pitch, sy'n brif bartner cyflawni ar gyfer Consortiwm Excelerator, sy’n rheoli Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

Mae manylion y Rhaglen ar gael ar y wefan Rhaglen Cyflymu Twf.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.