BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Blas llwyddiant o £38 miliwn ar fwyd a diod Cymru

Image of food with text - Blas Cymru / Taste Wales

Fe wnaeth BlasCymru/TasteWales 2023 gyrraedd y lefel uchaf erioed ar gyfer busnesau bwyd a diod Cymru fel y cadarnhawyd bod gwerthiant posibl wedi cyrraedd £38 miliwn, yn ol cyhoeddiad gan y Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths.

Yn y digwyddiad bob dwy flynedd, a gynhaliwyd dros ddau ddiwrnod yn y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol (ICCW) yng Nghasnewydd, gwelwyd cwmnïau yn y sector yn arddangos eu cynhyrchion o ansawdd uchel i brynwyr a gweithwyr proffesiynol y diwydiant gartref a thramor.

Cymerodd cyfanswm o 122 o fusnesau bwyd a diod o Gymru ran yn y digwyddiad, ynghyd â 15 Seren Twristiaeth y Dyfodol. Mae'r rhain yn fusnesau newydd yng Nghymru sydd wedi datblygu eu busnes yn ystod y 12 mis diwethaf.

Croesawodd Cymru 276 o brynwyr masnach, gan gynnwys 30 o brynwyr rhyngwladol o 11 gwlad.

Mae BlasCymru/TasteWales wedi cael cydnabyddiaeth barhaus gan brynwyr rhyngwladol ac mae wedi cyfrannu at y llwyddiant rhyfeddol o ran allforio bwyd a diod o Gymru yn fyd-eang.

Roedd digwyddiad 2023 hefyd yn arddangos 14 o gynhyrchion Cymreig gwarchodedig gyda statws Dynodiad Daearyddol (GI) fel Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Blas llwyddiant o £38 miliwn ar fwyd a diod Cymru | LLYW.CYMRU

Mae Is-adran Fwyd Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am hyrwyddo Bwyd a Diod Cymru yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol. I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Bwyd a Diod Cymru - Tyfu gyda'n gilydd | Business Wales - Food and drink (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.