BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cadarnhad o £20 miliwn o gymorth seilwaith fferm

Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, wedi cadarnhau dau gynllun cyllido i gefnogi buddsoddiad mewn seilwaith fferm, a fydd yn helpu i ymdopi yn well ag effaith bosibl newid yn yr hinsawdd.

Mae'r pecyn o fesurau yn rhan o'r ymrwymiad o dan Gytundeb Cydweithredu gyda Phlaid Cymru, i weithio gyda'r gymuned ffermio wrth ddefnyddio'r rheoliadau i wella ansawdd dŵr ac aer.

Mae £20 miliwn wedi'i ymrwymo ar gyfer dau gynllun i gefnogi ffermwyr i gydymffurfio â Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021. Bydd y Cynllun Buddsoddi mewn Rheoli Maetholion a'r cynllun Grantiau Bach – Gorchuddion Iardiau, yn agor yn fuan.

Mae'r ddau gynllun wedi'u cynllunio i alluogi ffermwyr i fynd i'r afael â rheoli a storio maetholion trwy ddarparu cymorth ar gyfer capasiti storio slyri ychwanegol a/neu atal dŵr glaw rhag mynd i mewn i storfeydd slyri i leihau gofynion y capasiti storio.

Mae'r gefnogaeth wedi cynyddu i ddarparu uchafswm o 50% o gyfraniad tuag at gostau penodol y prosiect. Bydd canllawiau manwl ar gael yn fuan gyda'r ddau gynllun ar agor erbyn yr haf.

Bydd rhagor o fanylion am y cynlluniau ar gael yn Grantiau a thaliadau gwledig.

Cyswllt Ffermio - eich helpu chi i yrru eich busnes yn ei flaen

Mae ein rhaglen yn cynnig cefnogaeth sy’n trawsnewid rhagolygon busnes miloedd o ffermwyr a choedwigwyr: Cyswllt Ffermio - eich helpu chi i yrru eich busnes yn ei flaen | Farming Connect (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.