BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cam 1 Y Gronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol (IETF): Clinigau rhanddeiliaid Gwanwyn 2021

Yn ddiweddar, agorodd Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU (BEIS), ar y cyd ag Innovate UK, gystadleuaeth newydd Cam 1: Gwanwyn 2021 Y Gronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol (IETF). Bydd BEIS yn cynnal cyfres o glinigau rhanddeiliaid drwy gydol cyfnod y gystadleuaeth i helpu a chefnogi busnesau sydd â diddordeb mewn gwneud cais am gyllid IETF.

Bydd y clinigau rhanddeiliaid yn helpu busnesau sy'n bwriadu gwneud cais am gyllid Cam 1, drwy eu galluogi i siarad yn uniongyrchol â BEIS ac Innovate UK a gofyn cwestiynau ynghylch ceisiadau posibl, meini prawf cymhwysedd, y broses ymgeisio, y gwasanaethau cymorth a gwybodaeth IETF sydd ar gael, ac ati. 

I gofrestru i fynychu'r clinigau rhanddeiliaid, ewch i'r safle cofrestru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.