BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Canllawiau wedi’u diweddaru ar Bontio’r UE

 

Defnyddio data personol yn eich busnes ar ôl y cyfnod pontio: Data personol yw unrhyw wybodaeth y gellir ei defnyddio i adnabod person byw, gan gynnwys enwau, manylion dosbarthu, cyfeiriadau IP, neu ddata AD fel manylion cyflogres. Mae’r rhan fwyaf o sefydliadau yn defnyddio data personol yn ei gwaith o ddydd i ddydd. Mae’r wybodaeth ddiweddaraf ar y camau sydd angen i chi eu cymryd i ddiogelu data a llif data gyda’r UE/AEE ar ddiwedd y cyfnod pontio ar gael yma.

Polisi pontio rhwymedïau masnach – Dur: Mesurau dur wedi’u diogelu – gwybodaeth sydd wedi’i diweddaru.

Diogelu enwau bwyd a diod o 1 Ionawr 2021: Logos dynodiadau daearyddol (GI) newydd y DU a phryd y dylech eu defnyddio, sut i sicrhau diogelwch ar gyfer cynhyrchion newydd, a GI ar draws ffiniau – gwybodaeth wedi’i diweddaru.

Cynhyrchion bwyd cyfansawdd a allforir i’r UE o 1 Ionawr 2021: Allforio cynhyrchion cyfansawdd sy’n cynnwys mêl, gelatin neu falwod – canllawiau wedi’u diweddaru.

Mewnforion pysgod i’w bwyta gan bobl: Gwybodaeth yma am sut i fewnforio pysgod i’w bwyta gan bobl o 1 Ionawr 2021, y dogfennau a allai fod eu hangen arnoch chi a’r rheolau tollau i’w dilyn.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.