BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cronfa Gymunedol Dŵr Cymru

Mae'r Gronfa Gymunedol yn rhoi cyfle i gymunedau hybu ymdrechion i godi arian at achosion da yn eu hardal. Os ydych chi'n byw mewn ardal lle mae gwaith yn cael ei wneud – ac yn codi arian at brosiectau er budd y gymuned neu'r amgylchedd – gallech chi gael gwerth £1,000 o gyllid gan Ddŵr Cymru.

Rhoddir blaenoriaeth i’r cynlluniau hynny lle mae Dŵr Cymru yn gweithio, neu wedi bod yn gweithio. Mater i ddisgresiwn y panel cymunedol yn llwyr yw'r penderfyniad i ddyfarnu cyllid.

Ni fydd Dŵr Cymru'n chwarae unrhyw rôl wrth drefnu achlysur nac yn rheoli unrhyw risgiau cysylltiedig. Bydd angen i grwpiau cymunedol gyflawni eu hasesiadau eu hunain o risg mewn perthynas ag unrhyw weithgaredd/achlysur a gyflawnir.

Ar ôl gwario'r gronfa flynyddol a ddyfarnwyd, bydd y gronfa'n cau tan y flwyddyn ariannol ganlynol.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Cronfa Gymunedol Dŵr Cymru | Dŵr Cymru Welsh Water (dwrcymru.com)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.