BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cryfhau sgiliau Cymraeg eich gweithlu

Wrecsam

Nod Cymraeg Gwaith yw cryfhau sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

Mae Cymraeg Gwaith yn cynnig hyfforddiant amrywiol, hyblyg, sydd wedi ei ariannu’n llwyr i gyflogwyr. Mae amrywiaeth o opsiynau ar gael i siwtio bawb ar bob lefel o ddysgu Cymraeg, o ddysgu dwys dan arweiniad Tiwtor i gyrsiau hunan-astudio byr. 

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Gwasanaethau Cymraeg Gwaith | Dysgu Cymraeg

Gall defnyddio ychydig bach o Gymraeg yn eich busnes wneud gwahaniaeth mawr. Helo Blod yw eich gwasanaeth cyngor a chyfieithu Cymraeg cyflym a chyfeillgar. Ac mae am ddim. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Croeso i Helo Blod | Helo Blod (llyw.cymru)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.