BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyfleoedd Ariannu Partneriaeth Twf Ynni Gwynt Alltraeth

Wind turbine

Partneriaeth Twf Ynni Gwynt Alltraeth (OWGP) yw prif sefydliad y DU ar gyfer cyllid twf y gadwyn gyflenwi a chymorth busnes pwrpasol ar gyfer ynni gwynt alltraeth.

Mae OWGP yn cyfrannu at dargedau’r DU o ran cyrraedd sero net, sicrwydd ynni a thwf economaidd drwy gefnogi datblygiad y gadwyn gyflenwi ynni gwynt alltraeth, cynhyrchu gwybodaeth, gwerth economaidd, swyddi medrus iawn ac incwm allforio ar gyfer busnesau’r DU.

Mae OWGP yn cynnig dau fath o gyfleoedd ariannu a chymorth, a Chyllid Grant. Cliciwch ar y ddolen ganlynol am ragor o wybodaeth: Funding Opportunities – Offshore Wind Growth Partnership (owgp.org.uk) 

Pecyn Cymorth Cefnogi Arbenigwyr Gwynt (WEST)

Mae WEST yn weithgaredd ymyrraeth tymor byr sy'n anelu at gefnogi twf cwmnïau cadwyn gyflenwi gwynt alltraeth drwy ddarparu cyngor arbenigol, deallusrwydd marchnad a mewnwelediad strategol i'r sector. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm 20 Medi: Funding Opportunities – Offshore Wind Growth Partnership (owgp.org.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.