BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyflwyno deddfwriaeth i hybu diwydiant twristiaeth ffyniannus a chynaliadwy yng Nghymru

Strumble Head lighthouse at sunrise

Heddiw, mae Bil i roi'r dewis i awdurdodau lleol gyflwyno ardoll fach ar ymwelwyr yn eu hardaloedd, i'w ailfuddsoddi mewn twristiaeth leol, yn cael ei gyflwyno gan yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford.

Mae Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) yn cynnig y bydd pobl sy'n aros dros nos yng Nghymru ac yn mwynhau popeth sydd gan y wlad i'w gynnig yn talu tâl bach. Bydd yr arian a godir yn cefnogi gweithgarwch twristiaeth a seilwaith lleol.

Mae cyflwyno'r ddeddfwriaeth yn cyflawni un o ymrwymiadau allweddol y Rhaglen Lywodraethu a bydd yn helpu i fuddsoddi yn nyfodol Cymru gan y byddai pob ymwelydd sy'n aros dros nos yn cyfrannu at ddiogelu harddwch a threftadaeth y wlad.

Byddai'n rhoi cyfle i gymunedau lleol gynhyrchu refeniw ychwanegol. Os bydd pob awdurdod lleol yng Nghymru yn dewis cyflwyno ardoll ymwelwyr, amcangyfrifir y gallai gynhyrchu hyd at £33 miliwn y flwyddyn.

Byddai cyfradd yr ardoll yn cael ei gosod ar:

  • 75c y pen y noson i bobl sy’n aros mewn hosteli ac ar leiniau mewn safleoedd gwersylla.
  • £1.25 y pen y noson i bobl sy'n aros ym mhob math arall o lety. 

Mae'r ddeddfwriaeth hefyd yn cynnwys gofyniad i sefydlu a chynnal cofrestr o lety ymwelwyr yng Nghymru, a fyddai – am y tro cyntaf – yn darparu cofrestr o'r ystod eang o lety i ymwelwyr sydd ar gael ledled y wlad.

Bydd awdurdodau lleol yn penderfynu a ydynt am gyflwyno ardoll yn eu hardal, yn seiliedig ar yr hyn sydd orau i'w cymunedau. Amcangyfrifir mai'r cynharaf y gallai hyn ddigwydd yw yn 2027 ar ôl i awdurdodau lleol ymgynghori â'u cymunedau.

Caiff ardollau ymwelwyr eu defnyddio'n llwyddiannus mewn sawl rhan o'r byd, gan gynnwys ym Manceinion, Gwlad Groeg, yr Almaen, yr Iseldiroedd, Sbaen, Portiwgal a Chaliffornia. Defnyddir yr arian a godir i gefnogi economi ymwelwyr iach drwy ddiogelu a buddsoddi yn y seilwaith a'r gwasanaethau y mae gwesteion yn eu mwynhau.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: "Cyfraniad bach a allai wneud gwahaniaeth mawr" – Cyflwyno deddfwriaeth i hybu diwydiant twristiaeth ffyniannus a chynaliadwy yng Nghymru | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.