BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyfres gweminarau Ofcom: beth mae’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn ei olygu i chi neu’ch busnes?

Woman using tech gadgets and apps for everyday life

Mae Deddf Diogelwch Ar-lein y DU wedi dod yn gyfraith yn ddiweddar, ac fel y rheoleiddiwr annibynnol, mae Ofcom wedi cyhoeddi ei brif ymgynghoriad cyntaf yn ddiweddar ar weithredu’r rheolau newydd, gan gynnwys codau ymarfer a chanllawiau drafft.

Gwahoddir busnesau i gyfres o weminarau a fydd yn cwmpasu cynigion Ofcom ar gyfer sut dylai gwasanaethau ar-lein ymdrin â’u dyletswyddau newydd yn gysylltiedig â chynnwys anghyfreithlon. Gallwch chi wirio a yw’r rheolau newydd yn debygol o fod yn berthnasol i chi.

Bydd y weminar hon yn darparu trosolwg o sut mae Ofcom yn bwriadu gweithredu’r gyfraith yn ymarferol, y canllawiau a’r codau drafft a gyhoeddwyd, beth fydd angen i fusnesau ei wneud i gydymffurfio â’r dyletswyddau newydd ynghylch cynnwys anghyfreithlon, a sut gallwch chi ymateb i’r ymgynghoriad.

Mae dyddiadau a ffocws ar gyfer pob gweminar fel a ganlyn:

  • Gweminar 1, 12 Rhagfyr 2023, 11am tan 12pm: Cyflwyniad i’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein a’r ymgynghoriad ar niwed anghyfreithlon – beth mae hyn yn ei olygu i chi a’ch busnes? Cofrestrwch ar gyfer Gweminar 1.
  • Gweminar 2, 16 Ionawr 2024, 10am tan 11am: Cyflwyniad i asesiadau risg cynnwys anghyfreithlon – sut gall yr asesiad risg eich helpu i wella diogelwch ar gyfer eich defnyddwyr. Cofrestrwch ar gyfer Gweminar 2.
  • Gweminar 3, 18 Ionawr 2024, 11am tan 12pm: Cyflwyniad i Godau ymarfer drafft Ofcom ar gyfer niwed anghyfreithlon – sut gallwch chi leihau risg niwed anghyfreithlon i’ch gwasanaeth. Cofrestrwch ar gyfer Gweminar 3.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r digwyddiad hwn, cysylltwch â: ofcomevents@ofcom.org.uk 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.