BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyllid gwerth cannoedd o filoedd o bunnoedd i undebau credyd

Mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru heddiw wedi ymweld ag undebau credyd ledled Cymru wrth iddynt gyhoeddi cyllid estynedig gwerth ychydig dros £422,000 y flwyddyn i sefydliadau sy’n cynnig cymorth hanfodol i’r rhai sy’n wynebu anawsterau ariannol. Mae undebau credyd yn sefydliadau nid-er-elw sydd ym mherchnogaeth y bobl sy’n defnyddio eu gwasanaethau, yn hytrach na rhanddeiliaid allanol neu fuddsoddwyr.

Mae undebau credyd yn ymwneud â chymunedau ar hyd a lled y wlad ac yn cyfrannu at yr economi ac at les ariannol yr aelodau, a all gynilo mewn modd diogel a benthyg arian ar gyfradd llog fforddiadwy.

Gall undebau credyd helpu’r rhai a allai yn draddodiadol ei chael yn anodd cynilo drwy gynnig cynlluniau fel didyniadau o’r gyflogres. Maent hefyd yn cynnig cynlluniau cynilion Nadolig sydd ond yn caniatáu tynnu arian yn y cyfnod sy’n arwain at yr ŵyl, gan helpu ar adeg o’r flwyddyn sy’n aml yn heriol.

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cyllid refeniw i unedau credyd i sicrhau y gallant ddatblygu llu o brosiectau mewn cymunedau gyda’r nod o gael rhagor o aelodau.

I amlygu pwysigrwydd unedau credyd yng Nghymru, fe wnaeth Gweinidogion yng Nghabinet Llywodraeth Cymru gymryd rhan mewn ymweliad wedi’i gydlynu ar hyd a lled y wlad, gan godi ymwybyddiaeth o’r gwasanaethau maent yn eu darparu, sy’n cynnwys benthyca fforddiadwy.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Cyllid gwerth cannoedd o filoedd o bunnoedd i undebau credyd sy’n cynnig achubiaeth wrth i’r Gweinidogion annog y rhai sy’n cael trafferthion i geisio cymorth mewn lle diogel | LLYW.CYMRU

I gael mwy o wybodaeth â'r Undebau Credyd, cliciwch ar y ddolen ganlynol Home - Credit Unions of Wales

 

 

 

 

 

 

 


 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.