BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cymorth a rheoli anabledd ac iechyd yn y gwaith 

Ar hyn o bryd mae llawer o gyflogwyr yn wynebu heriau wrth recriwtio’r bobl y maent eu hangen i helpu eu busnesau i ffynnu. Nid yw erioed wedi bod mor bwysig i’r cyflogwyr hynny gadw a datblygu’r bobl sydd ganddynt eisoes.

Felly, mae’n hanfodol bod gan fusnesau’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i atal absenoldeb hirdymor a cholli swyddi yn sgil salwch neu anabledd y gellid ei osgoi.

Mae Llywodraeth y DU yn profi gwasanaeth ar-lein newydd ar gyfer cyflogwyr sy’n darparu cyngor ac arweiniad ar reoli iechyd ac anabledd yn y gweithle. Mae’n egluro’ch rhwymedigaethau cyfreithiol ac arferion da.
Gall hyn fod yn arbennig o fuddiol i fusnesau bach heb swyddogaeth AD mewnol neu fynediad at wasanaeth iechyd galwedigaethol.

Trwy gymryd rhan, byddwch yn derbyn gwybodaeth ac arweiniad ar faterion cyflogaeth sy’n gysylltiedig ag anabledd ac iechyd. Gallech ei ddefnyddio i helpu i reoli achos cyfredol, neu i gael golwg o gwmpas y safle i weld beth sy’n fuddiol a nodi gwelliannau.

Sut bynnag y byddwch yn dewis cymryd rhan, bydd eich adborth yn hanfodol o ran datblygiad y gwasanaeth yn y dyfodol. Byddwch yn gwneud gwahaniaeth go iawn, gan sicrhau bod y gwasanaeth newydd yn hawdd ei ddefnyddio ac yn diwallu anghenion eich busnes a’ch gweithwyr.

Sut mae cymryd rhan

Noder mai’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adborth yw 13 Rhagfyr 2022.

Os ydych chi'n gyflogwr ac angen cymorth i ddeall mwy am ddelio ag afiechyd yn y gweithle, edrychwch yma: BOSS: Ynglŷn â Delio â Salwch (gov.wales)

Rheoli absenoldeb yw un o'r tasgau hollbwysig sydd o fudd i'ch cwmni, dyma diwtorial ar sut i'w reoli'n effeithiol: BOSS: Ynglŷn â Rheoli Absenoldeb (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.