BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cymorth i Dyfu: Hanfodion Rheoli

Small business owners looking at a digital device

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi lansio cwrs newydd Help to Grow: Management Essentials, sef cwrs ar-lein byr gydag awgrymiadau ac adnoddau ymarferol ar gyfer arweinwyr busnesau bach. Yn seiliedig ar y cwrs 12 wythnos Help to Grow: Management, mae’r cwrs hanfodion yn addas ar gyfer arweinwyr busnesau bach a chanolig newydd neu lai o ran maint, neu'r rhai sy'n awyddus i archwilio egwyddorion twf busnes a rheolaeth cyn cymryd y cam nesaf a chofrestru ar y cwrs llawn.

Dewiswch y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Help to Grow: Management Essentials | Small Business Charter

Adnodd cymorth ar-lein yw BOSS a ddarperir gan Busnes Cymru. Cynnigir gwybodaeth, cyngor, arweiniad a chymorth cwbl annibynnol wedi'i ariannu'n llawn i unigolion a busnesau yng Nghymru. Rydym yn deall bod rheoli busnes yn dasg sy'n peri gofid, yn enwedig os ydych yn dechrau arni. Er mwyn eich helpu, rydym wedi creu rhestrau chwarae wedi'u teilwra sy'n addas i bob cam o'ch busnes: Homepage | BOSS (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.