BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynllun Benthyciadau Adferiad

Cynllun benthyciadau newydd i gefnogi busnesau’r DU i gael mynediad at gyllid wrth iddyn nhw dyfu ac adfer ar ôl i bandemig COVID-19 darfu arnyn nhw.

Mae’r Cynllun Benthyciadau Adferiad yn sicrhau y gall busnesau o unrhyw faint barhau i gael mynediad at fenthyciadau a mathau eraill o gyllid hyd at £10 miliwn y busnes ar ôl i’r cynllun benthyciadau COVID-19 presennol ddod i ben, gan ddarparu cymorth wrth i fusnesau adfer a thyfu ar ôl cael i’r pandemig darfu arnyn nhw, ac ar ddiwedd y cyfnod pontio. 

Bydd y cynllun yn cael ei lansio ar 6 Ebrill 2021 a bydd ar agor hyd 31 Rhagfyr 2021, ond gall hyn newid.

Bydd benthyciadau ar gael drwy rwydwaith o fenthycwyr achrededig, y bydd eu henwau’n cael eu cyhoeddi maes o law.
Am ragor o wybodaeth, ewch i GOV.UK.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.