BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Digwyddiad Ymateb i Seiberddigwyddiad

Yellow background, laptop and cyber security digital symbols, padlock, fingerprint

Mae Canolfan Seiber Gydnerth Cymru a’r Hyb Arloesedd Seiber yn cynnal digwyddiad ymateb i ddigwyddiadau, am ddim, sy'n cynnig cyfle i fynychwyr brofi senario ymosodiad seiber realistig wedi’i gynllunio er mwyn eu helpu i baratoi ar gyfer digwyddiad seiber posibl ar eu busnes eu hunain.

Bydd y sesiwn hefyd yn cynnwys trafodaeth banel lle bydd llu o weithwyr proffesiynol yn y diwydiant gan gynnwys Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn trafod pob cam o'r ymosodiad a'i effaith, gan nodi penderfyniadau allweddol a hefyd y gefnogaeth sydd ar gael o dan yr amgylchiadau hyn. A bydd yn cyfan yn cael ei gyflwyno mewn terminoleg hawdd ei deall.

Cynhelir y digwyddiad ddydd Iau 30 Ionawr 2025 yn sbarc | spark, Ffordd Maendy, Caerdydd, CF24 4HQ.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth ac i archebu eich lle: Events | Cyber Resilience Centre for Wales


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.