BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diweddariadau a chyngor ar goronafeirws gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch

 

Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi cyhoeddi canllawiau amrywiol a allai fod yn ddefnyddiol i’ch busnes.

Mae’n cynnwys gwybodaeth am:

Mae’n bwysicach nawr nag erioed i fusnesau gymryd agwedd ragweithiol wedi’i chynllunio at reoli risg er mwyn i’w busnesau allu dal ati i weithredu’n ddiogel yn ystod yr argyfwng coronafeirws.

Mae taflen ‘Arwain iechyd a diogelwch yn y gweithle’ (INDG417) Sefydliad y Cyfarwyddwyr a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn nodi’r egwyddorion i helpu arweinwyr ym mhob diwydiant i ddefnyddio’r dull ‘Cynllunio, Gwneud, Gwirio, Gweithredu’ er mwyn cadw eu gweithleoedd yn ddiogel.

Gellir lawrlwytho'r daflen am ddim ac mae’n gymwys i sefydliadau o bob maint.

Am y wybodaeth a’r cyngor diweddaraf, ewch i microwefan coronafeirws yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.