BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diwrnod Cenedlaethol Gweithgynhyrchu 2024

Workers in a steel factory

Ar Ddiwrnod Cenedlaethol Gweithgynhyrchu, ddydd Iau, 26 Medi 2024, bydd gweithgynhyrchwyr ledled y DU yn agor eu drysau unwaith eto. Bydd aelodau'r cyhoedd yn cael eu gwahodd i ffatrïoedd a safleoedd i gael golwg y tu ôl i'r llen ar sut mae cyfleusterau Gweithgynhyrchwyr yn gweithio, fel rhan o'r Tŷ Agored hwn ledled y DU.

Bydd cymunedau lleol yn cael cyfle i weld y gyrfaoedd a'r swyddi posibl sydd ar gael yn y sector gweithgynhyrchu rhyfeddol o amrywiol, gan fod cyflogwyr yn ymgysylltu â phob grŵp oedran - o ymadawyr ysgol, graddedigion, pobl sy'n dymuno ailsgilio a'r trigolion lleol. 

Mae hwn yn gyfle i Make UK a gweithgynhyrchwyr arddangos amrywiaeth sector gwirioneddol ddiddorol, yr ystod o swyddi medrus iawn sydd ar gael a'r cyfleoedd anhygoel ar gyfer ailsgilio a datblygu gyrfa ym maes gweithgynhyrchu yn y DU.

Ymunwch â'r nifer cynyddol o gyflogwyr sydd wedi addunedu i agor eu drysau ar  Ddiwrnod Cenedlaethol Gweithgynhyrchu a helpu i gynyddu ymwybyddiaeth o weithgynhyrchu a'r gyrfaoedd gwych sydd ar gael ar gyfer y genhedlaeth nesaf.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Home | NMD 2023 (nationalmanufacturingday.org) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.