BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diwrnod Mentora Cenedlaethol 2024

Mentor

Ar 27 Hydref bob blwyddyn, cynhelir digwyddiad mwyaf y byd i ddathlu mentora: y Diwrnod Mentora Cenedlaethol.

Ar y diwrnod hwn, caiff unigolion, cwmnïau, ysgolion, cymunedau, prifysgolion a llywodraethau eu hannog i rannu hanesion eu llwyddiannau hwy o ran mentora, i gyflwyno astudiaethau achos, ac i wella ymwybyddiaeth o fentora, o’r cynlluniau mentora sydd ar gael, ac o’r buddion sydd gan fentora i’w gynnig.

Mae mwy o wybodaeth am sut i gymryd rhan i’w gael ar wefan y Diwrnod Mentora Cenedlaethol: National Mentoring Day® | HOME PAGE

Mae Rhaglen Fentora Busnes Cymru ar gyfer perchnogion busnesau sydd eisiau help i farchnata neu ehangu eu busnes, gweithredu newid yn eu busnes, neu angen ysbrydoliaeth i helpu i ddelio â her benodol.

Rydym yn darparu gwasanaeth cyfateb i Fusnesau Cymru sydd eisiau cyfle i gysylltu â mentoriaid busnes profiadol a fydd yn rhannu eu gwybodaeth, rhoi arweiniad, cynnig persbectif newydd a bod yn glust i wrando ar gyfer eich busnes. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.