BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diwrnod Twristiaeth y Byd 2024

Person stood in front of a map of the world

Bob blwyddyn ar 27 Medi caiff Diwrnod Twristiaeth y Byd ei ddathlu ledled y byd, gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth o’r rôl bwysig y mae twristiaeth yn ei chwarae wrth feithrin gwerthoedd cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol ledled y byd.

Mae Sefydliad Twristiaeth y Byd y Cenhedloedd Unedig (UNWTO) yn asiantaeth arbennig o'r Cenhedloedd Unedig a sefydlwyd i hyrwyddo twristiaeth gynaliadwy, gyfrifol a hygyrch i bawb.

Bob blwyddyn, mae Sefydliad Twristiaeth y Byd y Cenhedloedd Unedig yn penderfynu ar thema i ddathlu Diwrnod Twristiaeth y Byd. Thema eleni yw ‘Twristiaeth a Heddwch’.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Diwrnod Twristiaeth y Byd 2024

Mae Busnes Cymru yma i helpu busnesau twristiaeth Cymru i wireddu eu huchelgais gwyrdd. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Twristiaeth Gynaliadwy Cymru | Busnes Cymru (llyw.cymru) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.