BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Grantiau ‘Smart' Innovate UK

Smart yw’r enw newydd ar raglen ‘Cyllid grant agored’ Innovate UK.

Mae Innovate UK, rhan o UK Research and Innovation, yn buddsoddi hyd at £25 miliwn yn y syniadau arloesol neu chwyldroadol newydd gorau, sy’n fasnachol hyfyw. Rhaid i bob cynnig ganolbwyntio ar fusnes.

Gall ceisiadau ddod o unrhyw faes o dechnoleg a chael eu cymhwyso i unrhyw ran o’r economi. Dyma rai meysydd posib, ond nid yw’r grantiau wedi’u cyfyngu i’r rhain:

  • y celfyddydau, dylunio a’r cyfryngau
  • y diwydiannau creadigol
  • gwyddoniaeth neu beirianneg

Rhaid i geisiadau gynnwys o leiaf un busnes micro, busnes bach neu fusnes canolig ei faint (BBaCh) a rhaid i brosiectau ddechrau erbyn mis Hydref 2020 fan bellaf a gorffen erbyn Hydref 2023 fan bellaf.

Y dyddiad cau i gofrestru ar gyfer y gystadleuaeth yw hanner dydd 27 Mai 2020.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Innovate UK.

Cymerwch gip ar dudalennau Arloesi Busnes Cymru i gael gwybod sut gall arloesi helpu eich busnes chi i fod yn fwy cystadleuol, cynyddu’i werthiant a chyrraedd marchnadoedd newydd.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.