BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gweinidog yr Economi yn cyhoeddi buddsoddiad arall o £1 miliwn i arloesi mewn cerbydau gwyrdd

Bydd Llywodraeth Cymru’n cyd-ariannu trydedd rownd fuddsoddi mewn arloesedd gwyrddach a glanach trwy’r Gronfa Trawsnewid Cerbydau Carbon Isel Ford fel rhan o’i hymateb i’r argyfwng hinsawdd, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, heddiw (12 Gorffennaf 2023).

Cafodd y Gronfa sy’n cael ei gweinyddu gan Lywodraeth Cymru, ei sefydlu gan y Ford Motor Company yn 2020 i fynd i’r afael â’r heriau technegol diwydiannol strategol sy’n gysylltiedig â cherbydau carbon isel, gan gynnwys storio ynni trydanol, moduron trydan, electroneg pŵer a’r cydrannau sy’n gyrru olwynion. Mae cydweithio a chreu cadwyni cyflenwi newydd yn rhannau pwysig o waith y Gronfa.

Mae’r rownd gyllido nesaf yn dechrau heddiw a chaiff hyd at £1 miliwn ei fuddsoddi mewn prosiectau cyn diwedd 2024.

I wybod sut i ymgeisio a’r amodau a’r telerau, ewch i Cronfa Trawsnewid Cerbydau Carbon Isel Ford nawr ar agor! | Innovation (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.