BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gweinidog yr Economi yn nodi'r prif flaenoriaethau ar gyfer economi gryfach yng Nghymru ‘lle mae rhan gan bob un ohonom i chwarae’

Elite Clothing

Uchelgais ar gyfer cryfderau Cymru, twf gwyrdd ynghyd â sgiliau a swyddi lleol yw prif flaenoriaethau Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, a fydd heddiw (dydd Mawrth 28 Tachwedd 2023) yn nodi ei gynlluniau i gyflawni Cenhadaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer economi gryfach.

Wrth ymateb i heriau'r digwyddiadau byd-eang, chwyddiant, cyfraddau llog a chostau ynni, bydd Llywodraeth Cymru yn nodi pedair blaenoriaeth a fydd yn llywio sut y gall Cymru ymateb i ansicrwydd a manteisio ar gyfleoedd newydd.

  1. Pontio Cyfiawn a Ffyniant Gwyrdd: gwireddu’r cyfleoedd Sero Net enfawr. ac ymgysylltu â busnesau a phobl i symud tuag at drawsnewidiad cyfiawn.
  2. Platfform ar gyfer pobl ifanc, gwaith teg, sgiliau a llwyddiant: cefnogi pobl ifanc i gael dyfodol uchelgeisiol yng Nghymru. Rhoi blaenoriaeth i'w sgiliau a'u creadigrwydd.
  3. Partneriaethau cryfach ar gyfer rhanbarthau cryfach a'n heconomi bob dydd: gweithio gyda phob rhanbarth i gytuno ar gyfres lai o flaenoriaethau ar gyfer twf, swyddi lleol a buddsoddiad mawr. Cydweithio newydd i hybu'r achos dros fuddsoddi gan y DU mewn prosiectau sy'n denu llawer o fuddsoddiadau ac yn cefnogi swyddi teg sy'n cydnabod undebau llafur mewn meysydd fel ynni niwclear, ynni gwynt ar y môr a thechnoleg.
  4. Buddsoddi ar gyfer Twf: byddwn yn gweithio mewn partneriaeth i ganolbwyntio ar ein cryfderau cydnabyddedig i hybu buddsoddiad a thwf sy'n gwobrwyo gwaith teg a thymor hir. Bydd ein Strategaeth Arloesi newydd sy'n seiliedig ar genhadaeth yn targedu buddsoddiad newydd mewn tirwedd ôl-Undeb Ewropeaidd, gan gefnogi masnacheiddio, ymchwil a datblygu ac entrepreneuriaeth.

I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar y ddoleni ganlynol: 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.