Mae Small Business Britain a BT Skills for Tomorrow yn gweithio mewn partneriaeth i ddarparu sgiliau digidol i fusnesau bach ledled y DU.
Mae’r digwyddiadau diweddar wedi bod yn anodd i gymaint o fusnesau ac mae’r heriau wedi bod yn rhai caled dros ben. I lwyddo yn y byd newydd, dyw canolbwyntio ar “adfer” ddim yn ddigon ac efallai nad “mynd yn ôl i’r drefn arferol” sydd angen i chi ei wneud.
Bydd y gweminar hwn yn rhoi’r adnoddau a’r modelau ymarferol i chi:
- ddeall pa ymddygiad allai newid yn sgil y pandemig
- cynllunio sut i addasu i’r newidiadau hyn yn eich busnes
- ail-fframio’r sefyllfa sydd ohoni er mwyn canfod y cyfleoedd hynny sy’n ein symud ymlaen i’r byd newydd
- cynnal gweithgarwch marchnata effeithiol ar sail eich tueddiadau refeniw presennol
Cynhelir y gweminar am ddim ddydd Iau 2 Gorffennaf rhwng 11am a 12pm.
Am ragor o fanylion ac i archebu eich lle, cliciwch yma.