BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwneud Cais i Gronfa Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon Cymru Wrth-hiliol 2024 i 2025

person on University of Bangor library

Cyllid grant i helpu mudiadau Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon yng Nghymru i gyflawni canlyniadau gwrth-hiliol.

Mae cyllid cyfalaf o rhwng £3,000 a £15,000 ar gael rhwng canol Tachwedd 2024 a 14 Mawrth 2025. Bydd cyllid o hyd at £20,00 yn cael ei ystyried ar gyfer ceisiadau eithriadol a chymhellol.

Mae'r grant cyfalaf yn helpu sefydliadau cymwys i dalu costau cyfalaf cyflawni canlyniadau gwrth-hiliol. Mae enghreifftiau’n cynnwys:

  • adeiladu arddangosfa
  • prynu blychau arddangos
  • digideiddio casgliadau
  • gosodweithiau celf
  • cadwraeth treftadaeth ddiwylliannol
  • mannau diwylliannol a chymunedol
  • gweithgareddau allgymorth ac ymgysylltu
  • arallgyfeirio ac ehangu casgliadau

Er mwyn gwneud cais am gyllid, dylech:

  • fod yn sefydliad sydd wedi'i leoli yng Nghymru / gweithio gyda sefydliadau perthnasol sydd wedi'u lleoli yng Nghymru, neu sy'n gweithredu yma
  • fod yn gweithredu yn y sectorau'r Celfyddydau, Amgueddfeydd, Archifau, Llyfrgelloedd, Treftadaeth neu Chwaraeon / gyda phrofiad o ymgysylltu neu gyflawni yn y sectorau hyn
  • yn gallu prynu asedau cyfalaf erbyn 14 Mawrth 2025 a'u hawlio erbyn 24 Mawrth 2025.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 30 Medi 2024 am 5pm.

Cliciwch ar y dolenni ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.