BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Busnesau Newydd 2024

Cheerful shop owners celebrating their success as a team.

Mae sylfaenwyr y Gwobrau Entrepreneuriaid Prydeinig a’r Fast Growth 50 Index yn cyflwyno cyfres o wobrau sy’n hyrwyddo ac yn dathlu’r busnesau newydd gorau a disgleiriaf ymhlith 10 gwlad a rhanbarth ledled y Deyrnas Unedig.

Mae’r gwobrau’n cynnwys dros 35 o gategorïau yn amrywio o Fusnes Newydd Creadigol y Flwyddyn, Busnes Newydd Gwasanaethau Technoleg y Flwyddyn, Busnes Newydd Byd-eang y Flwyddyn, a Busnes Newydd Arloesol y Flwyddyn; dyma siawns i fusnesau sy’n darparu unrhyw wasanaethau mewn unrhyw ddiwydiant ennill gwobr ranbarthol Busnes Newydd y Flwyddyn!

Mae’r Gwobrau Busnesau Newydd yn cynnig cyfle i fusnesau ennill cydnabyddiaeth a sylw, gan ddenu amlygrwydd i’w brand, meithrin cysylltiadau mewn diwydiant, rhwydweithio â darpar fuddsoddwyr, a dathlu cyflawniadau rhagorol gan Fusnesau Newydd ym mlynyddoedd cynnar eu taith fusnes.

Nid oes tâl ar gyfer gwneud cais am y Gwobrau Busnesau Newydd, a bydd ymgeiswyr yn cael mynediad i gymuned gefnogol o gymheiriaid, arbenigwyr a chefnogwyr.

Cofrestrwch eich diddordeb ar gyfer 2024: Could you win Start Up of the Year?

Mae'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau wedi'i ymestyn hyd at 6 Mawrth 2024.

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Start Up Awards

A ydych chi’n awyddus i ddatblygu a thyfu eich busnes ymhellach? Gallwn eich cefnogi a'ch tywys drwy eich camau nesaf: Mynnwch Gymorth | Business Wales (gov.wales) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.