Mae’r Cod Talu Teg (FPC) newydd wedi’i lansio gan Swyddfa’r Comisiynydd Busnesau Bach (OSBC) i annog busnesau ledled y DU i dalu’n brydlon.
Mae'r cod newydd yn cyflwyno categorïau Dyfarniadau Haen Aur, Arian ac Efydd wedi'u hategu gan egwyddorion talu teg o fod yn Eglur, yn Deg ac yn Gydweithredol gyda’u cyflenwyr.
- Aur – Ar gyfer cwmnïau sy'n talu 95% o'u cyflenwyr o fewn 30 diwrnod.
- Arian – Ar gyfer cwmnïau sy'n talu 95% o'u cyflenwyr sy’n fusnesau bach o fewn 30 diwrnod a phob cyflenwr arall o fewn 60 diwrnod.
- Efydd – Ar gyfer cwmnïau sy'n talu 95% o’u cyflenwyr o fewn 60 diwrnod.
Nod y system haenau Dyfarniadau yw gwobrwyo arfer gorau a sbarduno gwelliannau mewn perfformiad talu.
Mae’r Cod newydd yn disodli'r Cod Talu’n Brydlon sydd wedi bod yn weithredol ers 2008.
I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Fair Payment Code - Small Business Commissioner