BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Lleoedd Lleol ar gyfer Natur – Cymru

Women working inside greenhouse garden

Mae Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn gynllun grant cyfalaf a fwriedir i alluogi ardaloedd o amddifadedd uchaf, cymunedau trefol/amdrefol a/neu'r rhai sydd â'r lleiaf o fynediad at natur yng Nghymru i adfer a gwella natur 'ar garreg eich drws'.

Ai dyma'r dewis rhaglen gorau i chi?

  • A yw eich sefydliad yn awyddus i gaffael, adfer a gwella natur yng Nghymru?
  • A fydd eich prosiect yn trawsnewid natur lle mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn treulio eu hamser hamdden?
  • A oes angen grant arnoch hyd at £250,000?
  • Ydych chi'n sefydliad dielw?
  • A fydd eich prosiect yn digwydd mewn ardal o amddifadedd o gwmpas trefi neu mewn trefi?

Neu gall y prosiect fod yn unrhyw le yng Nghymru:

  • os ydych yn cynnig prosiect tyfu bwyd cymunedol, neu
  • mae eich sefydliad/grŵp yn cynrychioli cymuned ethnig amrywiol

Os mai ydw oedd eich ateb i'r cwestiynau hyn, yna mae'r cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur ar eich cyfer chi.

Bydd sawl rownd o Grantiau Lleoedd Lleol ar gyfer Natur dros y ddwy flynedd nesaf.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau:

  • 12 canol dydd ar 12 Rhagfyr 2023
  • 12 canol dydd ar 12 Mawrth 2024
  • 12 canol dydd ar 22 Gorffennaf 2024

I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Lleoedd Lleol ar gyfer Natur - Cymru | Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol (heritagefund.org.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.