BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Lleoliadau gweithio o bell wedi’u cadarnhau ar draws Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn annog mwy o bobl i weithio o bell ac mae wedi nodi uchelgais hirdymor i weld 30% o weithlu Cymru yn gweithio mewn lleoliadau eraill yn lle swyddfa draddodiadol. Mae’n gobeithio cyflawni’r uchelgais hon drwy roi mwy o opsiynau a dewis i bobl o ran eu gweithle.
Bwriad yr uchelgais hwn yw helpu canol trefi, lleihau tagfeydd a lleihau allyriadau carbon.

Yn Hwlffordd mae gofod cydweithio newydd HaverHub yn cynnig lle i weithio yn y gymuned, tra bo hyb diweddaraf TownSq, Costigan, yng nghanol Tref y Rhyl wedi cael ei adnewyddu a bydd ganddo ddesgiau i bobl leol weithio o bell – mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych.

Yn ardal Cwm Tawe, mae Indycube yn rhoi cynnig ar droi swyddfeydd a chanolfannau cymunedol segur yn lleoliadau gweithio cymunedol.

Mae’r tri phrosiect yn gwahodd gweithwyr a busnesau i roi gwybod os hoffent geisio gweithio’n lleol yn agos i le maent yn byw a rhentu swyddfa er mwyn darparu mwy o ddewis i’w gweithwyr. Lle bo'n berthnasol, mae'r desgiau am ddim ar gyfer cyfnod y cynlluniau peilot 12 mis a fydd ar agor pan fydd cyfyngiadau COVID-19 yn caniatáu hynny.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Llyw.Cymru.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.